Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 30

30
Allor yr Arogldarth
Ex. 37:25–28
1“Gwna allor o goed acasia ar gyfer llosgi arogldarth. 2Bydd yn sgwâr, yn gufydd o hyd a chufydd o led a dau gufydd o uchder, a'i chyrn yn rhan ohoni. 3Goreura hi i gyd ag aur pur, yr wyneb, yr ochrau a'r cyrn; a gwna ymyl aur o'i hamgylch. 4Gwna hefyd ddau fach aur dan y cylch ar y ddwy ochr, i gymryd y polion ar gyfer cario'r allor. 5Gwna'r polion o goed acasia, a goreura hwy. 6Gosod yr allor o flaen y gorchudd sydd wrth arch y dystiolaeth, ac o flaen y drugareddfa ar yr arch; yno byddaf yn cyfarfod â thi. 7Bydd Aaron yn llosgi arogldarth peraidd arni bob bore wrth baratoi'r lampau, 8ac eto wrth oleuo'r lampau gyda'r hwyr; bydd hwn yn arogldarth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD dros y cenedlaethau. 9Peidiwch ag offrymu arni arogldarth halogedig, na phoethoffrwm, na bwydoffrwm; a pheidiwch â thywallt diodoffrwm arni. 10Bydd Aaron yn gwneud cymod ar ei chyrn unwaith y flwyddyn dros y cenedlaethau, a bydd yn ei wneud â gwaed yr aberth dros bechod a offrymir er cymod; y mae'n gysegredig iawn i'r ARGLWYDD.”
Y Dreth at Wasanaeth y Tabernacl
11Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 12“Pan fyddwch yn gwneud cyfrifiad o bobl Israel, y mae pob un i roi iawn am ei fywyd i'r ARGLWYDD, rhag bod pla yn eu plith wrth wneud y cyfrifiad. 13Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad i roi'n offrwm i'r ARGLWYDD hanner sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera. 14Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad sy'n ugain oed neu'n hŷn i roi offrwm i'r ARGLWYDD. 15Nid yw'r cyfoethog i roi mwy, na'r tlawd i roi llai, na hanner sicl, wrth i chwi roi offrwm i'r ARGLWYDD er cymod dros eich bywyd. 16Cymer arian y cymod oddi wrth bobl Israel a'i roi at wasanaeth pabell y cyfarfod; bydd yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD, er mwyn i chwi wneud cymod dros eich bywyd.”
Y Noe Bres
17Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 18“Gwna noe bres, â throed pres iddi, i ymolchi; a gosod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi 19i Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed. 20Pan fyddant yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, neu'n agosáu at yr allor i wasanaethu neu i losgi offrwm mewn tân i'r ARGLWYDD, y maent i ymolchi â'r dŵr, rhag iddynt farw. 21Y maent i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddynt farw; bydd hon yn ddeddf i'w chadw am byth gan Aaron a'i ddisgynyddion dros y cenedlaethau.”
Olew'r Ennaint
22Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, 23“Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd, 24a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden. 25Gwna ohonynt olew cysegredig ar gyfer eneinio, a chymysga hwy fel y gwna'r peraroglydd; bydd yn olew cysegredig ar gyfer ei eneinio. 26Eneinia ag ef babell y cyfarfod ac arch y dystiolaeth, 27y bwrdd a'i holl lestri, y canhwyllbren a'i holl lestri, allor yr arogldarth, 28allor y poethoffrwm a'i holl lestri, a'r noe a'i throed. 29Cysegra hwy, a byddant yn gysegredig iawn; bydd beth bynnag a gyffyrdda â hwy hefyd yn gysegredig. 30Eneinia Aaron a'i feibion, a chysegra hwy i'm gwasanaethu fel offeiriaid. 31Yna dywed wrth bobl Israel, ‘Bydd hwn yn olew cysegredig i mi dros y cenedlaethau. 32Peidiwch ag eneinio corff neb ag ef, na gwneud dim sy'n debyg iddo o ran ei gynnwys. Y mae'n gysegredig; felly bydded yn gysegredig gennych. 33Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, neu sy'n ei dywallt ar leygwr.’ ”
Yr Arogldarth
34Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer berlysiau, sef stacte, onycha a galbanum, ac ynghyd â'r llysiau hyn, thus pur; cymer yr un faint o bob un, 35a gwna arogldarth a'i gymysgu fel y gwna'r peraroglydd, a'i dymheru â halen i'w wneud yn bur a chysegredig. 36Cura beth ohono'n fân a'i roi o flaen y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod, lle byddaf yn cyfarfod â thi; bydd yn gysegredig iawn gennych. 37Peidiwch â gwneud arogldarth fel hwn i chwi eich hunain; bydd yn gysegredig i'r ARGLWYDD. 38Torrir ymaith oddi wrth ei bobl bwy bynnag sy'n gwneud cymysgedd tebyg, i fwynhau ei arogl.”

Dewis Presennol:

Exodus 30: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda