Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 15

15
Cyfamod Duw ag Abram
1Wedi'r pethau hyn, daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, a dweud, “Nac ofna, Abram, myfi yw dy darian; bydd dy wobr yn fawr iawn.” 2Ond dywedodd Abram, “O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhŷ yw Eleasar o Ddamascus?”#15:2 Hebraeg yn ansicr. 3Dywedodd Abram hefyd, “Edrych, nid wyt wedi rhoi epil i mi; a chaethwas o'm tŷ yw f'etifedd.” 4Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, “Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd.” 5Aeth ag ef allan a dywedodd, “Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sêr os gelli.” Yna dywedodd wrtho, “Felly y bydd dy ddisgynyddion.” 6Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo.
7Yna dywedodd wrtho, “Myfi yw'r ARGLWYDD, a ddaeth â thi o Ur y Caldeaid, i roi'r wlad hon i ti i'w hetifeddu.” 8Ond dywedodd ef, “O Arglwydd DDUW, sut y caf wybod yr etifeddaf hi?” 9Dywedodd yntau wrtho, “Dwg imi heffer deirblwydd, gafr deirblwydd, hwrdd teirblwydd, turtur a chyw colomen.” 10Daeth â'r rhain i gyd ato, a'u hollti'n ddau a gosod y naill ddarn gyferbyn â'r llall; ond ni holltodd yr adar. 11A phan fyddai adar yn disgyn ar y cyrff byddai Abram yn eu hel i ffwrdd. 12Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno. 13Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd; 14ond dof â barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu, ac wedi hynny dônt allan gyda meddiannau lawer. 15Ond byddi di dy hun farw mewn tangnefedd, ac fe'th gleddir mewn oedran teg. 16A dychwelant hwy yma yn y bedwaredd genhedlaeth; oherwydd ni chwblheir hyd hynny ddrygioni'r Amoriaid.” 17Yna wedi i'r haul fachlud, ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud rhwng y darnau hynny.
18Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud:
“I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon,
o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.”
19Dyna wlad y Ceneaid, y Cenesiaid, y Cadmoniaid, 20yr Hethiaid, y Peresiaid, y Reffaimiaid, 21yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Girgasiaid, a'r Jebusiaid.

Dewis Presennol:

Genesis 15: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda