Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 29

29
Jacob yn Cyrraedd Tŷ Laban
1Yna aeth Jacob ymlaen ar ei daith, a dod i wlad pobl y dwyrain. 2Wrth edrych, gwelodd bydew yn y maes, a thair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho, gan mai o'r pydew hwnnw y rhoid dŵr i'r diadelloedd. Yr oedd carreg fawr ar geg y pydew, 3a phan fyddai'r holl ddiadelloedd wedi eu casglu yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i'r defaid, ac yna'n gosod y garreg yn ôl yn ei lle ar geg y pydew. 4Dywedodd Jacob wrthynt, “Frodyr, o ble'r ydych yn dod?” Atebasant, “Rhai o Haran ydym ni.” 5Yna gofynnodd iddynt, “A ydych yn adnabod Laban fab Nachor?” Atebasant hwythau, “Ydym.” 6Wedyn meddai wrthynt, “A yw'n iawn?” Atebasant, “Ydyw; dacw ei ferch Rachel yn dod â'r defaid.” 7“Nid yw eto ond canol dydd,” meddai yntau, “nid yw'n bryd casglu'r anifeiliaid; rhowch ddŵr i'r defaid, ac ewch i'w bugeilio.” 8Ond atebasant, “Ni allwn nes casglu'r holl ddiadelloedd, a symud y garreg oddi ar geg y pydew; yna rhown ddŵr i'r defaid.”
9Tra oedd yn siarad â hwy, daeth Rachel gyda defaid ei thad; oherwydd hi oedd yn eu bugeilio. 10A phan welodd Jacob Rachel ferch Laban brawd ei fam, a defaid Laban brawd ei fam, nesaodd Jacob a symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi dŵr i braidd Laban brawd ei fam. 11Cusanodd Jacob Rachel ac wylodd yn uchel. 12Yna dywedodd Jacob wrth Rachel ei fod yn nai i'w thad, ac yn fab i Rebeca; rhedodd hithau i ddweud wrth ei thad. 13Pan glywodd Laban am Jacob, mab ei chwaer, rhedodd i'w gyfarfod, a'i gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag ef i'w dŷ. Adroddodd yntau'r cwbl wrth Laban, 14a dywedodd Laban wrtho, “Yn sicr, fy asgwrn a'm cnawd wyt ti.” Ac arhosodd gydag ef am fis.
Jacob yn Gwasanaethu Laban am Rachel a Lea
15Yna dywedodd Laban wrth Jacob, “Pam y dylit weithio imi am ddim, yn unig am dy fod yn nai imi? Dywed i mi beth fydd dy gyflog?” 16Yr oedd gan Laban ddwy ferch; enw'r hynaf oedd Lea, ac enw'r ieuengaf Rachel. 17Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond yr oedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth. 18Hoffodd Jacob Rachel, a dywedodd, “Fe weithiaf i ti am saith mlynedd am Rachel, dy ferch ieuengaf.” 19Dywedodd Laban, “Gwell gennyf ei rhoi i ti nag i neb arall; aros gyda mi.” 20Felly gweithiodd Jacob saith mlynedd am Rachel, ac yr oeddent fel ychydig ddyddiau yn ei olwg am ei fod yn ei charu.
21Yna dywedodd Jacob wrth Laban, “Daeth fy nhymor i ben; rho fy ngwraig imi, er mwyn imi gael cyfathrach â hi.” 22Casglodd Laban holl bobl y lle at ei gilydd, a gwnaeth wledd. 23Ond gyda'r hwyr cymerodd ei ferch Lea a mynd â hi at Jacob; cafodd yntau gyfathrach â hi. 24Ac yr oedd Laban wedi rhoi ei forwyn Silpa i'w ferch Lea yn forwyn. 25Pan ddaeth y bore, gwelodd Jacob mai Lea oedd gydag ef; a dywedodd wrth Laban, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud â mi? Onid am Rachel y gweithiais? Pam y twyllaist fi?” 26Dywedodd Laban, “Nid yw'n arfer yn ein gwlad ni roi'r ferch ieuengaf o flaen yr hynaf. 27Gorffen yr wythnos wledd gyda hon, a rhoir y llall hefyd iti am weithio imi am dymor o saith mlynedd arall.” 28Gwnaeth Jacob felly, a gorffennodd y saith diwrnod. Yna rhoddodd Laban ei ferch Rachel yn wraig iddo, 29a rhoi ei forwyn Bilha i'w ferch Rachel yn forwyn. 30Cafodd Jacob gyfathrach â Rachel hefyd, a hoffodd Rachel yn fwy na Lea, a gweithiodd i Laban am saith mlynedd arall.
Enwau Plant Jacob
31Pan welodd yr ARGLWYDD fod Lea'n cael ei chasáu, agorodd ei chroth; ond yr oedd Rachel yn ddi-blant. 32Beichiogodd Lea ac esgor ar fab, a galwodd ef Reuben#29:32 H.y., Gwelwch, mab!; oherwydd dywedodd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi gweld fy ngwaradwydd, ac yn awr bydd fy ngŵr yn fy ngharu.” 33Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y mae'r ARGLWYDD wedi clywed fy mod yn cael fy nghasáu, a rhoddodd hwn i mi hefyd.” A galwodd ef Simeon#29:33 H.y., Un yn clywed.. 34Beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, “Yn awr, o'r diwedd fe unir fy ngŵr â mi, oherwydd rhoddais iddo dri mab.” Am hynny galwodd ef Lefi#29:34 H.y., Uniad.. 35A beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, “Y tro hwn moliannaf yr ARGLWYDD.” Am hynny galwodd ef Jwda#29:35 H.y., Moliant.. Yna peidiodd â geni plant.

Dewis Presennol:

Genesis 29: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda