Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 2

2
Trefnu'r Gwersylloedd
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, 2“Bydd pobl Israel yn gwersyllu o amgylch pabell y cyfarfod, ychydig oddi wrthi, pob un dan ei faner ei hun a than arwydd tŷ ei dad. 3Ar ochr y dwyrain, tua chodiad haul, bydd minteioedd gwersyll Jwda yn gwersyllu o dan eu baner. 4Nahson fab Amminadab fydd arweinydd pobl Jwda, a nifer ei lu yn saith deg pedair o filoedd a chwe chant. 5Llwyth Issachar fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Nethanel fab Suar fydd arweinydd pobl Issachar, 6a nifer ei lu yn bum deg pedair o filoedd a phedwar cant. 7Yna llwyth Sabulon; Eliab fab Helon fydd arweinydd pobl Sabulon, 8a nifer ei lu yn bum deg saith o filoedd a phedwar cant. 9Cyfanswm gwersyll Jwda, yn ôl eu minteioedd, fydd cant wyth deg chwech o filoedd a phedwar cant. Hwy fydd y rhai cyntaf i gychwyn ar y daith.
10“Ar ochr y de bydd minteioedd gwersyll Reuben o dan eu baner. Elisur fab Sedeur fydd arweinydd pobl Reuben, 11a nifer ei lu yn bedwar deg chwech o filoedd a phum cant. 12Llwyth Simeon fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Selumiel fab Suresadai fydd arweinydd pobl Simeon, 13a nifer ei lu yn bum deg naw o filoedd a thri chant. 14Yna llwyth Gad; Eliasaff fab Reuel fydd arweinydd pobl Gad, 15a nifer ei lu yn bedwar deg pump o filoedd, chwe chant a phum deg. 16Cyfanswm gwersyll Reuben, yn ôl eu minteioedd, fydd cant pum deg un o filoedd pedwar cant a phum deg. Hwy fydd yr ail i gychwyn allan.
17“Yna bydd pabell y cyfarfod a gwersyll y Lefiaid yn cychwyn allan yng nghanol y gwersylloedd eraill. Byddant yn ymdeithio yn y drefn y byddant yn gwersyllu, pob un yn ei le a than ei faner ei hun.
18“Ar ochr y gorllewin bydd minteioedd gwersyll Effraim o dan eu baner. Elisama fab Ammihud fydd arweinydd pobl Effraim, 19a nifer ei lu yn bedwar deg o filoedd a phum cant. 20Yn nesaf ato bydd llwyth Manasse. Gamaliel fab Pedasur fydd arweinydd pobl Manasse, 21a nifer ei lu yn dri deg dwy o filoedd a dau gant. 22Yna llwyth Benjamin; Abidan fab Gideoni fydd arweinydd pobl Benjamin, 23a nifer ei lu yn dri deg pump o filoedd a phedwar cant. 24Cyfanswm gwersyll Effraim, yn ôl eu minteioedd, fydd cant ac wyth o filoedd a chant. Hwy fydd y trydydd i gychwyn allan.
25“Ar ochr y gogledd bydd minteioedd gwersyll Dan o dan eu baner. Ahieser fab Ammisadai fydd arweinydd pobl Dan, 26a nifer ei lu yn chwe deg dwy o filoedd a saith gant. 27Llwyth Aser fydd yn gwersyllu yn nesaf ato. Pagiel fab Ocran fydd arweinydd pobl Aser, 28a nifer ei lu yn bedwar deg un o filoedd a phum cant. 29Yna llwyth Nafftali; Ahira fab Enan fydd arweinydd pobl Nafftali, 30a nifer ei lu yn bum deg tair o filoedd a phedwar cant. 31Cyfanswm gwersyll Dan fydd cant pum deg saith o filoedd a chwe chant. Hwy fydd yr olaf i gychwyn allan, pob un dan ei faner ei hun.”
32Dyma bobl Israel a gyfrifwyd yn ôl eu teuluoedd. Cyfanswm y rhai a rifwyd yn eu gwersylloedd ac yn ôl eu minteioedd oedd chwe chant a thair o filoedd pum cant a phum deg. 33Ond, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses, ni rifwyd y Lefiaid ymysg pobl Israel.
34Gwnaeth pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses, gan wersyllu dan eu baneri a chychwyn allan, fesul tylwyth, yn ôl eu teuluoedd.

Dewis Presennol:

Numeri 2: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda