Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 13

13
Golchi traed y disgyblion
1Cyn Gŵyl y Pasg oedd hi. Fe wyddai’r Iesu fod ei amser wedi dod i adael y byd a mynd at y Tad. Fe garodd y rhai oedd yn eiddo iddo yn y byd, ac fe ddangosodd hyd y diwedd mor berffaith oedd ei gariad.
2Roedd yr Iesu a’i ddisgyblion wrthi’n swpera. Roedd y diafol eisoes wedi plannu yng nghalon Jwdas, mab Simon Iscariot, y bwriad o fradychu’r Iesu. 3Am y gwyddai’r Iesu fod y Tad wedi ymddiried popeth iddo a’i fod wedi dod oddi wrth Dduw ac yn mynd at Dduw, 4dyma fe’n codi o’r bwrdd, tynnu’i wisg uchaf ac yn clymu tywel am ei ganol. 5Yna fe arllwysodd ddŵr i badell a dechreuodd olchi traed y disgyblion a’u sychu â’r tywel oedd am ei ganol.
6Yna fe ddaeth yn dro Simon Pedr, ac meddai ef wrtho, “Arglwydd, wyt ti’n golchi fy nhraed i?”
7Fe atebodd yr Iesu, “Ar hyn o bryd dwyt ti ddim yn deall beth rwyf fi’n ei wneud, ond fe fyddi di’n deall yn nes ymlaen.”
8Meddai Pedr, “Chei di byth olchi fy nhraed i.”
“Os na olchaf fi di,” atebodd yr Iesu, “chei di ddim byd i’w wneud â fi.”
9“Yna, Arglwydd,” meddai Pedr, “golch nid fy nhraed yn unig, ond fy nwylo a’m pen hefyd.”
10Meddai’r Iesu, “Os yw dyn wedi ymolchi drosto does dim rhaid iddo ond golchi ei draed, yna mae’n lân i gyd. Rydych chi yn lân — ond nid pawb.”
11Roedd yn gwybod pwy a’i bradychai; dyna pam y dywedodd, “Nid pawb ohonoch chi sy’n lân.”
12Ar ôl golchi’u traed, gwisgodd ei wisg uchaf ac eistedd eto, ac meddai wrthyn nhw, “Ydych chi’n deall beth wnes i i chi? 13Rydych chi’n fy ngalw i yn Athro ac yn Arglwydd, ac mae hyn yn iawn oblegid dyna wyf fi. 14Felly, os wyf fi, eich Arglwydd a’ch Athro, wedi golchi’ch traed chi, fe ddylech chithau hefyd olchi traed eich gilydd. 15Rwyf fi wedi rhoi esiampl i chi; er mwyn i chi hefyd wneud fel y gwnes i i chi. 16Mae’n berffaith wir i chi, dyw’r gwas ddim yn fwy na’i feistr na’r negesydd yn fwy na’r un a’i hanfonodd. 17Os gwyddoch hyn fe fyddwch chi’n ddedwydd os rhoddwch chi ef ar waith.
18“Dwyf i ddim yn siarad amdanoch chi i gyd; mi wn i pwy yw’r rhai a ddewisais. Mae yna air o Ysgrythur i’w gyflawni, sef, ‘Mae’r un sy’n bwyta gyda mi wedi troi i’m herbyn.’ 19Rwyf yn eich rhybuddio nawr o hyn, fel y credwch fy mod i yr hyn ydwyf pan ddaw hyn i ben. 20Mae’n berffaith wir, pwy bynnag sy’n derbyn rhywun wedi ei anfon gennyf fi, mae hwnnw’n fy nerbyn i, ac wrth fy nerbyn i mae’n derbyn yr Un a’m hanfonodd i.”
Sôn am fradychu
21Wedi dweud hyn, fe gynhyrfwyd yr Iesu i lefaru, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi’n mynd i’m bradychu i.”
22Roedd y disgyblion yn edrych ar ei gilydd gan na wydden nhw ddim at bwy roedd ef yn cyfeirio. 23Roedd un o’r disgyblion, hwnnw roedd yr Iesu yn ei garu, yn lledorwedd wrth ochr yr Iesu. 24Gwnaeth Simon Pedr arwydd iddo i ofyn pwy oedd yn ei feddwl.
25Felly dyma fe’n pwyso’n ôl ar fynwes yr Iesu, ac meddai wrtho, “Arglwydd, pwy yw ef?”
26Atebodd yr Iesu, “Yr un a gaiff y tamaid yma o fara gennyf fi ar ôl i mi ei wlychu yn y ddysgl.”
27Yna ar ôl ei roi yn y ddysgl i’w wlychu, dyma’i dynnu allan a’i roi i Jwdas, mab Simon Iscariot. A chyn gynted ag y derbyniodd Jwdas y tamaid, dyma Satan yn cymryd meddiant ohono.
Meddai’r Iesu wrtho, “Yr hyn sydd gennyt i’w wneud, gwna ar frys.”
28Doedd neb wrth y bwrdd yn deall pam y dywedodd ef hyn wrtho. 29Oherwydd mai Jwdas oedd y trysorydd, roedd rhai yn meddwl bod yr Iesu wedi dweud wrtho, “Pryn y pethau sydd eisiau arnom ni at yr Ŵyl,” neu “at roi rhodd i’r tlodion.” 30Fe gymerodd Jwdas y tamaid ac allan ag ef. Roedd hi’n nos.
Gorchymyn newydd
31Ar ôl iddo fynd allan, meddai’r Iesu, “Yn awr mae Mab y Dyn wedi ei ogoneddu a Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef. 32Ac os yw Duw wedi cael ei ogoneddu ynddo ef, fe ogonedda Duw yntau ac fe wna hynny’n fuan. 33Fy mhlant, fyddaf fi ddim gyda chi lawer yn hwy eto; byddwch yn chwilio amdanaf, ond rwyf yn dweud wrthych chi nawr fel y dywedais i wrth yr Iddewon, ‘lle rwyf fi yn mynd fedrwch chi ddim dod.’ 34Rwyf yn rhoi gorchymyn newydd i chi; cerwch eich gilydd. Fel rwyf fi wedi’ch caru chi, felly rydych chi i garu’ch gilydd hefyd. 35Os yw’r cariad hwn yn eich plith, yna bydd pawb yn gwybod eich bod yn ddisgyblion i mi.”
Sôn am wadu
36Meddai Simon Pedr wrtho, “Arglwydd, ble rwyt ti’n mynd?”
Fe atebodd yr Iesu, “Ble rydw i’n mynd fedri di ddim dilyn, ymhellach ymlaen fe gei di ddilyn.”
37Meddai Pedr, “Arglwydd, pam na fedraf i dy ddilyn di nawr? Rwyf yn fodlon marw er dy fwyn di.”
38“Wnei di farw er fy mwyn i?” atebodd yr Iesu. “Cred di fi, fe fyddi di wedi fy ngwadu i dair gwaith cyn y cân y ceiliog.”

Dewis Presennol:

Ioan 13: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda