Luc 19
19
Newid bywyd Saceus
1Aeth ymlaen drwy ddinas Jerico. 2Ac roedd yno ŵr cyfoethog o’r enw Saceus, ac roedd ef yn ben ar y casglwyr trethi. 3Roedd yn awyddus i gael gweld pa fath ddyn oedd yr Iesu, ond rhywstrid ef gan y dyrfa am ei fod yn ddyn byr. 4Felly fe redodd bellter ymlaen a dringo i sycamorwydden i’w weld, wedi deall pa ffordd roedd ef i ddod. 5Pan ddaeth yr Iesu i’r fan, edrychodd i fyny a’i weld. Ac meddai, “Saceus, disgyn ar unwaith. Rhaid imi gael aros yn dy dŷ di heddiw.”
6Disgynnodd yntau ar frys, a’i groesawu’n llawen. 7Ond grwgnach a wnâi pawb, gan ddweud, “Meddyliwch am y fath beth — lletya gyda throseddwr!”
8Ond sefyll a wnaeth Saceus gan ddweud wrth yr Arglwydd, “Rwy’n addo yr eiliad hon, Syr, roi hanner popeth sydd gen i i’w rannu rhwng y tlodion. Ac os ydw i wedi dwyn arian oddi ar neb, fe’i talaf yn ôl bedair gwaith drosodd.”
9Ac meddai’r Iesu, “Heddiw daeth iachawdwriaeth Duw i’r aelwyd hon. Y mae hwn hefyd yn blentyn Abraham, 10a dod yma i chwilio am y colledig a’i achub a wnaeth Mab y Dyn.”
Dameg y Punnoedd
11Wrth iddyn wrando ar hyn, adroddodd yr Iesu ddameg arall wrthyn nhw am ei fod yn agos i Jerwsalem, ac am iddyn nhw gredu bod teyrnasiad Duw i ymddangos yn fuan. 12Meddai, “Aeth gŵr bonheddig i wlad bell, un tro, i gael ei wneud yn frenin, ac yna i ddychwelyd. 13Galwodd ddeg o’i weision ato, a rhoddi iddyn nhw ddarn arian bob un, gyda’r gorchymyn iddyn nhw fasnachu â nhw tra byddai ef i ffwrdd. 14Casâi ei ddinaswyr ef, a dyna nhw’n anfon neges ar ei ôl i ddweud, ‘Does arnom ni ddim eisiau hwn yn frenin.’
15“A phan ddychwelodd (wedi ei wneud yn frenin), anfonodd eilwaith am y gweision a gafodd yr arian i weld sut y daeth pob un ymlaen wrth farchnata.”
16Daeth y cyntaf a dweud, “Syr, mae dy ddarn arian di wedi ennill deg arall.”
17“Dyna beth yw gwas da,” meddai yntau. “Oherwydd dy ffyddlondeb mewn peth bach iawn, rhoddaf iti reolaeth dros ddeg dinas.”
18Daeth yr ail ymlaen gan ddweud, “Syr, mae dy ddarn arian di wedi ennill pump arall.”
19Meddai wrtho, “Rhoddaf i tithau reolaeth dros bum dinas.”
20Ond daeth y llall, gan ddweud, “Syr, dyna dy ddarn arian di’n ôl. Cuddiais ef mewn darn o liain. 21Ofnwn di am dy fod yn ddyn caled, yn tynnu allan yr hyn na roddaist i mewn, ac yn medi heb hau.”
22Ateb ei feistr oedd, “Y cnaf drwg! Mae d’eiriau dy hun yn dy gyhuddo! Fe wyddit fy mod yn ddyn caled, yn tynnu allan yr hyn na roddais i mewn ac yn medi heb hau. 23Pam na fuaset wedi rhoddi fy arian yn y banc? Yna mi gawn log arno wedi dod yn ôl.”
24Ac meddai wrth y rhai oedd gerllaw, “Ewch â’r darn arian oddi arno, a rhoddwch ef i’r hwn sydd a deg ganddo.”
25“Ond Syr, mae gan hwnnw ddigon yn barod!” meddai nhw wrtho.
26“Cofiwch,” ebe yntau, “pob un sydd ganddo ryw gymaint fe gaiff ragor. Ond yr hwn sydd yn brin, dygir oddi arno hyd yn oed yr hyn sydd ganddo. 27Ac yn awr, dygwch yma fy ngelynion a geisiai fy rhwystro i deyrnasu arnyn nhw, a lleddwch hwy o’m blaen.”
Paratoi ei ddyfodiad i Jerwsalem
28Wedi dweud hyn, cychwynnodd o’u blaen tua Jerwsalem. 29A phan ddaeth yn agos at Bethffage a Bethania, gerllaw’r mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o’i ddisgyblion, 30gan ddweud wrthyn nhw, “Ewch i’r pentref sy gogyfer â chi. Fel y dewch i mewn, fe welwch ebol wedi’i rwymo, a neb erioed wedi’i farchogaeth. Gollyngwch ef, a dewch ag ef yma. 31Ac os gofyn rhywun pam rydych yn ei ollwng yn rhydd, dywedwch wrthyn nhw, ‘Y mae ar y Meistr ei eisiau.’”
32Wedi mynd, fe gawson nhwythau fel y dywedasai. 33Ac fel y gollyngen nhw yr ebol, holodd ei berchnogion, “Paham rych chi’n tynnu’r ebol yn rhydd?”
34A nhwythau yn ateb, “Y mae ar y Meistr ei angen.”
35Yna daethon ag ef at yr Iesu. Ac wedi taflu eu dillad ar yr ebol, rhoddwyd yr Iesu ar ei gefn. 36Ac fel y teithiai, taenai llawer eu dillad ar y ffordd o’i flaen.
37Fel y deuai’n nes at y ffordd sy’n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl dyrfa o ddisgyblion foliannu Duw â llef uchel, oherwydd yr holl bethau gogoneddus a welson nhw eu cyflawni, 38gan ddweud, “Bendigedig yw’r hwn sy’n dyfod fel brenin yn enw yr Arglwydd! Tangnefedd yn y nefoedd, gogoniant yn yr uchelderau!”
39Fe ddywedodd rhai o’r Phariseaid yn y dorf wrtho, “Cerydda dy ddisgyblion.” 40Atebodd yntau, “Clywch, os tewi wna’r rhai hyn, fe waedda’r cerrig!”
Wylo dros y ddinas
41Pan ddaeth i olwg y ddinas, wylodd yr Iesu drosti, 42gan ddweud, “Pe byddet ti ddim ond yn gwybod, hyd yn oed heddiw, ar beth y dibynna dy heddwch — ond nid wyt yn gallu ei weld! 43Daw’r amser pan gwyd dy elynion furiau o’th amgylch, gan dy gau i mewn o bob cyfeiriad. 44Fe fwrian di i’r llawr, a’th blant o’th fewn yr un modd, heb adael carreg ar garreg. A’r cwbl am na wyddet pan ymwelodd Duw ei hun â thi.”
Gyrru’r masnachwyr o’r deml
45Yna aeth i’r Deml, a dechreuodd yrru’r rhai oedd yn gwerthu allan oddi yno, 46gan ddweud wrthyn nhw, “Ysgrifennwyd, ‘Tŷ gweddi a elwir fy nhŷ i.’ A dyma chi wedi ei droi yn ogof lladron!”
47Ddydd ar ôl dydd, roedd yn dysgu yn y Deml. Ac roedd y prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith ac arweinwyr y genedl yn ceisio cael gwared ohono. 48Ond ni fedren nhw ganfod unrhyw ddull o wneud hynny, am fod y bobl i gyd yn ei wrando mor astud.
Dewis Presennol:
Luc 19: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971