Luc 20
20
Iesu’n dysgu yn y Deml
1Un dydd, pan oedd wrthi’n dysgu’r bobl yn y Deml a phregethu’r Newyddion Da, daeth y prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith a’r henuriaid o hyd iddo, 2a gofyn, “Dywed i ni, pa hawl sydd gennyt ti i wneud y pethau hyn, a phwy a roddodd yr hawl yma iti?”
3Atebodd yntau, “Mae gennyf finnau gwestiwn i chithau. 4Dywedwch, beth am fedydd Ioan, ai o Dduw yr oedd ynteu o ddynion?”
5Aeth hi’n ddadl rhyngddyn nhw a’i gilydd, a dweud, “Os dywedwn ni, ‘O Dduw,’ fe ddywed yntau, ‘Pam felly na fuasech chi wedi ei gredu?’ 6Ac os atebwn ni mai ‘o ddynion’, fe dafla’r bobl i gyd gerrig atom, oherwydd maen nhw yn argyhoeddedig fod Ioan yn broffwyd.”
7Dywedson felly, na wydden nhw o b’le.
8Ac meddai’r Iesu wrthyn nhw, “Os felly, dywedaf finnau ddim wrthych chi pa hawl sydd gennyf i wneud y pethau hyn.”
Dameg y Winllan a’r Tenantiaid
9Dechreuodd lefaru wrth y bobl y ddameg hon: “Plannodd dyn winllan, ac wedi ei gosod i winllanwyr, aeth oddi cartref am ysbaid hir. 10Ac yn y man, anfonodd was at y gwinllanwyr i ddwyn yn ôl iddo beth o ffrwyth y winllan ar yr amser priodol. Ond ei guro a wnaethon nhw a’i anfon i ffwrdd yn waglaw. 11Anfonodd wedyn ail was, a churwyd hwnnw hefyd, ei drin yn gywilyddus a’i anfon ymaith yn waglaw. 12A thrachefn, fe anfonodd was, y trydydd tro, a chlwyfwyd yntau, a’i daflu allan o’r winllan. 13Yna meddai perchennog y winllan, ‘Beth a wnaf yn awr? Anfonaf fy mab annwyl. Efallai y parchan nhw ef.’ 14Ond pan welodd y gwinllanwyr ef, dyma nhw’n ymresymu fel hyn, ‘Dyma’r etifedd. Dewch i ni gael ei ladd, fel y daw’r etifeddiaeth yn eiddo i ni!’ 15A chan hynny, dyna nhw’n ei daflu ef allan o’r winllan a’i ladd.
“Beth, bellach, a wna perchennog y winllan iddyn nhw? 16Fe ddaw a difa’r gwinllanwyr hynny, ac fe rydd y winllan i eraill.”
Pan glywson nhw hyn, medden nhw, “Amhosibl.”
17Edrychodd yntau arnyn nhw, a gofyn, “Beth, felly, a dybiwch yw ystyr y rhan hon o’r Ysgrythur,
‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr
A wnaed yn ben conglfaen?’
18Ac fe chwelir yn ddarnau y sawl a fydd yn cwympo ar y garreg honno, ac fe chwelir yn ulw y sawl bydd y garreg hon yn cwympo arno’.”
I bawb ei eiddo
19Roedd y prif offeiriaid ac athrawon y Gyfraith yn dyheu am afael ynddo y pryd hwnnw, ond yn ofni’r bobl; fe wydden nhw mai yn eu herbyn nhw y llefarwyd y ddameg. 20Gan aros eu cyfle, dyna anfon ysbïwyr oedd yn cymryd arnyn nhw fod yn gyfiawn, i’w ddal ar rywbeth a ddywedai, er mwyn cael achos i’w drosglwyddo i awdurdod cyfreithiol llywodraethwyr. 21Ac meddai’r rhai hyn wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn dysgu yn gwbl ddidwyll, heb falio dim am neb, ond yn dysgu’n onest ewyllys Duw ar gyfer dyn. 22A yw’n iawn inni dalu treth i Gesar?”
23Meddai’r Iesu, wedi gweld trwy eu cyfrwystra, 24“Dewch â darn arian imi. Nawr, llun ac enw pwy sydd ar hwn?”
25“Cesar,” medden nhwythau.
Ac meddai yntau, “Dyna chi — telwch i Gesar yr hyn sy’n ddyledus iddo ef a thelwch i Dduw yr hyn sy’n ddyledus iddo yntau.”
26Nid oedd dim yn ei eiriau y gallen nhw ddal arno’n gyhoeddus, a chan ryfeddu at ei ateb, tewi fu raid.
Bywyd tu draw i’r bedd
27Gofynnodd rhai o’r Sadwceaid iddo, (nhw yw’r bobl sy’n dweud nad oes atgyfodiad), 28“Athro, rhoddodd Moses orchymyn i ni sy’n dweud fel hyn, ‘Pan fydd brawd dyn farw gan adael gwraig ond heb adael plant, yna cymered ei frawd y weddw a choded blant i’w frawd.’ 29Nawr, roedd saith o frodyr. Priododd y cyntaf, a marw heb adael plant. 30Priododd yr ail 31a’r trydydd brawd ei weddw; yn wir, priododd y saith hi, a phob un yn marw heb adael plant ar ôl. 32Ac yn y diwedd, bu farw’r wraig hefyd. 33Gwraig pwy fydd hi, felly, yn yr Atgyfodiad? Oherwydd priododd y saith hi.”
34Atebodd yr Iesu, “Y mae dynion a merched yn y bywyd hwn yn priodi, 35ond nid yw’r rhai a farnwyd yn deilwng o le yn y byd arall ac o’r atgyfodiad oddi wrth y rhai sydd wedi marw yn priodi, 36oherwydd ni allan farw eilwaith. Y maen nhw yn byw fel angylion; gan eu bod yn gyfrannog yn yr Atgyfodiad, y maen nhw’n blant Duw. 37Y mae Moses yn dangos fod y meirwon yn atgyfodi yn yr hanes hwnnw am y berth, pan yw yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob. 38Nid yw Duw yn Dduw y meirw, ond y rhai byw, oherwydd iddo ef mae pawb yn fyw.” 39“Athro, dyna atebiad da,” meddai rhai o athrawon y Gyfraith, 40ac ni feiddien nhw ofyn dim arall iddo.
Pa fodd y mae Crist yn fab Dafydd
41“Pa fodd,” gofynnodd iddyn nhw, “y mae hi’n bosibl dweud bod y Meseia yn fab i Dafydd? 42Dywed Dafydd ei hun yn Llyfr y Salmau,
‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar fy llaw ddeau,
43Nes i mi osod dy elynion
yn droedfainc i ti.’
44Os yw Dafydd yn ei alw yn Arglwydd iddo, sut felly y gall fod yn fab iddo?”
Rhybudd rhag rhagrith
45Meddai wrth ei ddisgyblion, yng nghlyw yr holl bobl, 46“Gwyliwch rhag athrawon y Gyfraith, rhai sydd yn hoffi cerdded oddi amgylch mewn dillad llaes a chael pobl i foesymgrymu iddyn nhw yn gyhoeddus, a’r seddau blaen yn y synagogau a’r lleoedd gorau mewn gwleddoedd. 47Maen nhw’n mynd ag eiddo gwragedd gweddwon oddi arnyn nhw, ac fe weddïan yn faith er mwyn cael eu gweld. Trymaf i gyd fydd y ddedfryd arnyn nhw.”
Dewis Presennol:
Luc 20: FfN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971