Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 2

2
Cyfrif y boblogaeth
1Yn y dyddiau hynny, fe gyhoeddodd Awgwstws Cesar fod cyfrifiad i’w wneud o holl boblogaeth y byd. 2Dyma’r cyfrifiad cyntaf o’i fath, ac fe’i gwnaed pan oedd Cyreniws yn rheolwr ar Syria. 3I’r diben hwn, teithiai pawb i’w dref ei hun. 4Felly, aeth Joseff i fyny i Jwdea — a mynd o dref Nasareth yng Ngalilea i ddinas Dafydd, sef Bethlehem, am ei fod yn hanu o linach Dafydd, 5i gael ei restru gyda Mair, oedd i fod yn briod iddo. Ac roedd hi’n disgwyl plentyn.
Geni Crist
6Tra roedden nhw yno, daeth amser geni’r plentyn. 7Ac fe anwyd iddi fab, ei phlentyn cyntaf. Am nad oedd lle iddyn nhw yn y gwesty, lapiodd amdano’n gynnes, a’i osod mewn preseb.
Hysbysu’r bugeiliaid
8Roedd yn yr ardal honno fugeiliaid, wrthi drwy’r nos yn gwarchod eu defaid allan ar y caeau. 9A dyma angel yr Arglwydd yn sefyll yn eu hymyl, a gogoniant yr Arglwydd yn disgleirio o’u cylch, nes eu parlysu gan ofn. 10Ond meddai’r angel wrthyn nhw, “Peidiwch ag ofni. Newyddion da sydd gen i i chi, mae llawenydd mawr yn dod i’r holl bobl. 11Heddiw, ganwyd ichi Waredwr yn ninas Dafydd, y Crist, yr Arglwydd. 12Ac i brofi hynny, fe ddowch o hyd i faban yn gorwedd mewn preseb, wedi’i lapio’n gynnes.”
13Yn sydyn, roedd gyda’r angel fintai o angylion y nefoedd yn moli Duw, gan ddweud,
14“Gogoniant fyddo i Dduw yn y goruchaf,
A bydded heddwch ar y ddaear i’r rhai sydd â’u bwriad yn dda.”
15Wedi i’r angylion eu gadael a dychwelyd i’r nefoedd, meddai’r bugeiliaid, y naill wrth y llall, “Dowch! Fe awn ni’n syth i Fethlehem i weld y peth hwn a ddigwyddodd, ac a hysbysodd Duw inni.”
16Sôn am frys! Mewn dim amser, roedden nhw gyda Mair a Joseff, a dyna lle roedd y baban yn y preseb. 17Pan welson nhw hyn dyma nhw’n dechrau adrodd wrth bawb yr hyn a ddywedwyd wrthyn nhw am y bachgen hwn. 18Roedd pawb oedd yn eu clywed wedi synnu at yr hanes. 19Ond trysori’r cyfan wnaeth Mair, a’i droi drosodd a throsodd yn ei meddwl. 20Yn y cyfamser, aeth y bugeiliaid yn ôl at eu gwaith, gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a welson nhw ac a glywson. Digwyddodd y cyfan fel y dywedwyd wrthyn nhw.
Dod â’r baban i’r Deml
21Ymhen wyth niwrnod, roedd hi’n amser enwaedu ar y plentyn, ac fe’i galwyd yn Iesu — yr enw a roes yr angel iddo cyn iddo erioed gael ei genhedlu.
22Wedi i gyfnod eu puro yn ôl Cyfraith Moses fynd heibio, dyna ddod ag ef i Jerwsalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd. 23(Yn ôl Cyfraith yr Arglwydd — ‘Cyfrifir pob mab cyntaf-anedig yn eiddo i’r Arglwydd.’) 24A hefyd i gynnig yr aberth a hawliai’r Gyfraith, pâr o ddurturod, neu ddau gyw colomen.
25Yr adeg honno, roedd dyn yn Jerwsalem o’r enw Simeon, dyn gonest a duwiol, yn disgwyl yn eiddgar am adeg well i Israel. Roedd yntau yn llawn o’r Ysbryd Glân, 26ac wedi cael ar ddeall gan yr Ysbryd Glân na fyddai ef farw cyn gweld Meseia yr Arglwydd. 27Dan ddylanwad yr Ysbryd, aeth i mewn i’r Deml. A phan ddaeth ei rieni â’r baban Iesu ymlaen, mewn ufudd-dod i’r Gyfraith, 28cymerodd Simeon ef yn ei freichiau gan fendithio Duw, a dweud, 29“Yn awr o’r diwedd, Feistr, y rhoddi ollyngdod i’th was mewn heddwch yn ôl d’addewid. 30Canys gwelais â’m llygaid fy hun y waredigaeth 31a drefnaist ti yng ngŵydd yr holl bobloedd — 32goleuni a fydd yn datguddio’r gwir i’r cenhedloedd, gogoniant i’th bobl, Israel.”
33Roedd tad a mam y plentyn wedi rhyfeddu at yr hyn a ddywedid amdano. 34Bendithiodd Simeon nhw a dweud wrth Mair ei fam, “Fe fydd y plentyn hwn yn achos darostwng a chodi llawer yn Israel, ac fe esyd safon y bydd llu yn ymosod arni; 35fe ddinoetha fwriadau cêl llawer calon. Ac fe deimli dithau’r cyfan i’r byw.”
36Roedd hefyd broffwydes, Anna (merch Phanwel o lwyth Aser), hen wraig a fu’n briod ifanc am saith mlynedd yn unig. 37Roedd yn awr yn bedair a phedwar ugain. Ni adawai y Deml byth, ond addoli Duw ddydd a nos, gan ymprydio a gweddïo. 38Cyrhaeddodd ar y foment honno a rhoddodd ddiolch i Dduw, a sôn am y plentyn wrth bwy bynnag oedd yn ceisio gwaredigaeth yn Jerwsalem.
Yn ôl yn Nasareth
39Cyn gynted ag y cyflawnwyd pob peth angenrheidiol yn ôl Cyfraith yr Arglwydd, dyna nhw’n dychwelyd i Galilea, i’w tref eu hunain, Nasareth. 40Ac fe dyfodd y plentyn a dod yn gryf a doeth. Ac roedd ffafr Duw arno ef.
Iesu yn y Deml yn ddeuddeg oed
41Roedd hi’n arferiad gan ei rieni fynd i fyny i Jerwsalem bob blwyddyn, adeg gŵyl y Pasg. 42A phan oedd ef yn ddeuddeg oed, fe aethon yno fel arfer. 43Pan oedd popeth drosodd, dyna droi’n ôl, ond arhosodd Iesu yn Jerwsalem, a’i rieni heb wybod hynny. 44Fe aethon ymlaen felly am ddiwrnod, gan gymryd yn ganiataol ei fod yntau yn y cwmni yn rhywle. Ond pan aed i chwilio amdano ymhlith eu perthnasau a’u cydnabod, 45a heb ei gael, dyma nhw’n dychwelyd i Jerwsalem i chwilio amdano. 46Ar ôl tri diwrnod, fe’i cawson nhw ef yn y Deml, yn eistedd gyda’r athrawon yn gwrando arnyn nhw ac yn eu holi. 47A phawb oedd yn ei glywed wedi rhyfeddu at ei allu i ddeall a’i atebion. 48Pan welson nhw ef, roedden nhw wedi rhyfeddu. Ac meddai’i fam wrtho, — “’Machgen i, i beth rwyt ti’n gwneud tro fel hyn â ni? Wyddost ti fod dy dad a finnau bron wedi drysu yn chwilio amdanat ti?”
49Meddai yntau, “Pam roedd rhaid chwilio amdanaf fi? Oeddech chi ddim yn gwybod bod yn rhaid i mi fod yn Nhŷ fy Nhad?”
50Ond doedden nhw ddim yn deall yr hyn ddywedodd ef wrthyn nhw.
Ufudd-dod Iesu
51Yna fe aeth adref gyda nhw i Nasareth, gan fod yn fachgen ufudd iddyn nhw. Ac fe drysorodd ei fam yr holl bethau hyn yn ei chalon. 52A thyfodd yr Iesu mewn doethineb a chorff, ac mewn ffafr gyda Duw a dyn.

Dewis Presennol:

Luc 2: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda