Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 3

3
Ioan yn paratoi ar gyfer dyfod Crist
1Ym mhymthegfed flwyddyn teyrnasiad Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Peilat yn rheolwr Jwdea, Herod yn dywysog Galilea, ei frawd Philip yn dywysog Itwrea a Trachonitis, Lysanias yn dywysog Abilene, 2ac Annas a Chaiaffas yn Brif Offeiriaid, daeth gair Duw at Ioan, mab Sachareias, pan oedd yn y tir anial. 3Aeth yntau wedyn ar hyd ac ar led dyffryn yr Iorddonen, gan gyhoeddi bedydd fel arwydd o newid ffordd o fyw, er mwyn cael maddeuant pechodau. 4Fel y dywed llyfr y proffwyd Eseia,
Llais un yn galw mewn tir anial,
‘Paratowch ffordd yr Arglwydd,
Gwnewch lwybrau unionsyth ar ei gyfer.
5Pob pant a lenwir,
A phob mynydd a bryn a wneir yn wastad;
Unionir popeth sydd yn gwyro,
Y ffyrdd garw a wneir yn llyfn.
6A dynoliaeth oll a wêl waredigaeth Duw.’
7A’r hyn a ddywedai Ioan wrth y torfeydd a ddeuai i’w bedyddio oedd, “Yr epil nadroedd fel yr ydych, pwy a’ch rhybuddiodd chi, i ffoi rhag y dial sy’n dod arnoch? 8Gwnewch rywbeth i brofi eich bod wedi newid eich ffordd o fyw. A pheidiwch â dechrau dweud wrthych eich hunain, ‘Mae gennym ni Abraham yn dad.’ Clywch: fe allai Duw godi plant i Abraham o’r cerrig hyn! 9Mae’r fwyell wedi’i gosod yn barod wrth wraidd y coed, ac fe dorrir i lawr pob coeden heb ddwyn ffrwyth da, a’i thaflu i’r tân.”
10Yna holodd y bobl ef, “Beth wnawn ni ynteu?”
11Atebodd yntau, “Rhaid i’r sawl sydd â dau grys ganddo rannu â’r dyn sydd heb ddim, a rhaid i’r sawl sydd â bwyd wneud yr un modd.”
12Daeth casglwyr trethi hefyd ato i gael eu bedyddio, a gofyn iddo, “Feistr, beth wnawn ni?”
13“Peidiwch byth â mynd â mwy na’ch hawl oddi ar neb,” oedd ei ateb.
14Gofynnodd y milwyr iddo hefyd, “Beth a wnawn ni?” A’i ateb oedd, “Peidio â gwneud cam â neb, na chymryd arian oddi arno. A bod yn fodlon ar eich tâl.”
15Am fod pob un yn llawn chwilfrydedd, ac yn dechrau meddwl ynddo’i hun tybed ai Ioan oedd y Meseia, 16dywedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw i gyd, “Â dŵr rydw i’n eich bedyddio chi, ond y mae un cryfach na fi yn dod, ’dydw i ddim digon da i ddatod carrai ei sandalau. Bydd ef yn eich bedyddio â’r Ysbryd Glân ac â thân. 17Mae’i wyntyll yn ei law i glirio’n lân ei lawr dyrnu, gan gasglu’r gwenith i’w ysgubor, a llosgi’r us â thân na all neb ei ddiffodd.”
18A chyda’r ymadroddion hyn a llawer eraill tebyg iddyn nhw y cyhoeddodd Ioan y Newyddion Da i’r bobl. 19Ond wedi iddo geryddu’r tywysog Herod, oherwydd yr achos hwnnw ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac oherwydd llawer peth drygionus arall a wnaeth Herod, 20fe goronodd hwnnw ei holl bechu drwy gau Ioan yn y carchar.
Bedyddio’r Iesu
21Wedi i bawb gael eu bedyddio, a phan oedd Iesu yn gweddïo wedi’i fedydd yntau, agorodd y nefoedd, 22a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno yn weledig, fel colomen. A daeth llais o’r nef yn dweud, “Ti yw fy Mab, f’anwylyd. Ti sydd wrth fy modd.”
Llinach yr Iesu
23A’r adeg hon pan ddechreuodd ei waith, roedd Iesu tua’r deg ar hugain oed, mab (fe dybid) i Joseff, fab Eli, 24fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Jannai, fab Joseff, 25fab Matathias, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai, 26fab Maath, fab Matathias, fab Semei, fab Josech, fab Joda, 27fab Joanan, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri, 28fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er, 29fab Jose, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi, 30fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonam, fab Eliacim, 31fab Melea, fab Mainan, fab Natatha, fab Nathan, fab Dafydd, 32fab Jesse, fab Obed, fab Boas, fab Sala, fab Naason, 33fab Aminadab, fab Admin, fab Arni, fab Esrom, fab Phares, fab Jwda, 34fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Tera, fab Nachor, 35fab Saruch, fab Ragau, fab Peleg, fab Heber, fab Shela, 36fab Cainan, fab Arpachshad, fab Shem, fab Non, fab Lamech, 37fab Methwsela, fab Enoc, fab Jared, fab Malalel, fab Cainan, 38fab Enoch, fab Seth, fab Adda, fab Duw.

Dewis Presennol:

Luc 3: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda