Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 4

4
Temtio’r Iesu
1Dychwelodd Iesu o’r Iorddonen yn llawn o’r Ysbryd Glân, 2ac am ddeugain niwrnod fe’i harweinid gan yr Ysbryd yn y tir anial yn cael ei demtio gan y diafol. Nid oedd wedi bwyta dim y dyddiau hynny, ac ar eu diwedd yr oedd ar lwgu. 3Meddai’r diafol wrtho, — “Os ti yw Mab Duw, dywed wrth y garreg hon am droi’n fara.”
4Ond meddai’r Iesu, “Fel hyn y dywed yr Ysgrythur, ‘Ni all dyn fyw ar fara’n unig’.”
5Yna dyma’r diafol yn arwain yr Iesu i fyny, ac yn dangos iddo ar amrantiad holl deyrnasoedd y byd, 6a dweud wrtho, “F’eiddo i ydyn nhw, a gallaf eu rhoi i bwy bynnag a fynnaf. 7Mae’r cyfan yn eiddo iti, a’r awdurdod a’r anrhydedd sydd ynglŷn â nhw, dim ond iti blygu a’m haddoli.”
8Ond atebodd yr Iesu ef, “Fel hyn y dywed yr Ysgrythur, ‘Dim ond yr Arglwydd dy Dduw rwyt ti i’w addoli a’i wasanaethu.’ ”
9Yna, dyma’r diafol yn ei gymryd i Jerwsalem, a’i osod ar dŵr ucha’r Deml.
“Os ti yw Mab Duw,” meddai, “tafla dy hun i lawr. 10Oblegid fel hyn y dywed yr Ysgrythur, ‘Fe orchymyn ef i’w angylion i ofalu amdanat; 11fe’th ddalian nhw di â’u dwylo, rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg’.”
12Atebodd yr Iesu ef, “Fe ddywedwyd, ‘Paid â themtio yr Arglwydd, dy Dduw’.”
13Wedi gorffen pob temtiad, gadawodd y diafol lonydd iddo am y tro.
Iesu’n dechrau pregethu yng Ngalilea
14Yna fe ddaeth yr Iesu’n ôl, yn llawn o nerth yr Ysbryd, i Galilea. Ac roedd sôn drwy’r holl wlad amdano. 15Dysgai yn eu synagogau, ac roedd pawb yn ei ganmol.
Ei bobl ei hun yn ceisio’i ladd
16A daeth i Nasareth, lle y magwyd ef. Yn ôl ei arfer, aeth i’r synagog ar y Dydd Gorffwys, a mynd ymlaen i gymryd rhan. 17A’r sgrôl a gafodd i’w darllen oedd un y proffwyd Eseia. Agorodd hi, a dod o hyd i’r man lle dywedir, —
18‘Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi,
Am iddo fy eneinio i gyhoeddi newyddion da i’r tlawd;
Anfonodd fi i gyhoeddi rhyddid i’r carcharorion,
Ac adferiad golwg i’r deillion;
I anfon yn rhydd y rhai dan orthrwm creulon,
19A chyhoeddi blwyddyn bendith yr Arglwydd.’
20Wedi rholio’r sgrôl eilwaith, a’i rhoi’n ôl i’r cynorthwywr, eisteddodd, ac roedd llygaid pawb yn y synagog wedi’u hoelio arno.
21A dechreuodd siarad, “Daeth yr Ysgrythur yma’n wir heddiw yn eich clyw chi,” meddai.
22Roedd pawb â gair da iddo, gan ryfeddu iddo siarad geiriau mor rasol.
“Onid mab Joseff yw hwn?” oedd yr holi.
23“Mae’n bur debyg,” meddai wrthyn nhw, “y byddwch yn ailadrodd yr hen ddihareb, ‘Y meddyg, iacha dy hun! Gad inni weld yma hefyd yn dy ardal dy hun y pethau y dywedir iti eu gwneud yng Nghapernaum’.” 24Yna ychwanegodd, “Coeliwch fi. Nid oes croeso i broffwyd yn ei fro ei hun. 25Fe ellwch fentro fod llawer o wragedd gweddwon yn Israel yn amser Eleias, pan oedd hi’n newyn mawr drwy’r wlad, a dim diferyn o law wedi disgyn am dair blynedd a hanner. 26Ond nid at yr un ohonyn nhw yr anfonwyd Eleias, ond at weddw yn Sarepta yng ngwlad Sidon. 27Yn adeg y proffwyd Eliseus, roedd llawer o wahangleifion yn Israel, ond Naaman yn unig a iachawyd, a Syriad oedd hwnnw.”
28Wrth glywed hyn, fe wylltiodd pob un yn enbyd. 29A chan neidio ar eu traed dyma’i daflu allan o’r dref, a mynd ag ef i ben y bryn y codwyd y dref arni, gan fwriadu ei daflu i lawr bendramwnwgl oddi yno. 30Ond fe aeth ef drwy’u canol, a mynd ymlaen ar ei daith.
Pregethu ac iacháu yng Nghapernaum
31Daeth wedyn i Gapernaum, dinas yng Ngalilea, a’u dysgu ar y Dydd Gorffwys. 32Roedd pawb yn rhyfeddu at ei ddysgeidiaeth, am fod tinc awdurdod yn ei eiriau.
33Roedd dyn yn y synagog dan ddylanwad rhyw gythraul, ac yn gweiddi ar ucha’i lais, 34“Hei, pam rwyt ti’n ymyrryd â ni, Iesu o Nasareth? A ddaethost ti i’n difetha ni? Gwn pwy wyt yn iawn — Un Santaidd Duw.” 35Ond dyma’r Iesu yn ei geryddu, “Bydd ddistaw,” meddai, “a thyrd allan ohono.”
A thaflodd y cythraul y dyn i’r llawr yn eu golwg i gyd, a daeth allan ohono heb wneud dim niwed iddo. 36Roedd pawb wedi rhyfeddu, ac yn dal i ddweud wrth ei gilydd, “Beth yw peth fel hyn? I feddwl bod hyd yn oed yr ysbrydion aflan yn ufuddhau i’w awdurdod a’i allu, ac yn dod allan!”
37Ac ef oedd testun siarad yr holl wlad oddi amgylch.
38Wedi i’r Iesu adael y synagog, aeth i dŷ Simon. Ac roedd mam-yng-nghyfraith Simon wedi ei tharo’n wael â thwymyn, ac roedd pawb yno’n erfyn drosti. 39Daeth Iesu a sefyll uwch ei phen, a’r dwymyn, wedi ei cheryddu ganddo, a’i gadawodd hi. A chododd hithau ar unwaith i weini arnyn nhw.
40Gyda’r nos, daeth pawb roedd ganddyn nhw berthnasau oedd yn wael mewn unrhyw fodd â nhw ato; rhoddodd yntau ei ddwylo ar bob un, a’i iacháu. 41Daeth cythreuliaid hefyd allan o lawer, gan weiddi, “Mab Duw wyt ti!”
Ond fe’u rhwystrodd nhw ar unwaith rhag dweud dim chwaneg, am y gwydden nhw mai ef oedd y Meseia.
Taith Bregethu
42Ben bore drannoeth, aeth yr Iesu allan a throi i le unig. Ond daeth y bobl i chwilio amdano, a’i gael, a cheisio pwyso arno i beidio â’u gadael. 43Ond dywedodd yntau, “Rhaid imi rannu’r Newyddion Da am deyrnasiad Duw â threfi eraill hefyd. I wneud hynny yr anfonwyd fi.”
44Ac aeth ymlaen i bregethu yn synagogau Jwdea.

Dewis Presennol:

Luc 4: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda