Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Luc 14

14
1A bu wrth ddyfod o Hono i dŷ rhyw un o bennaethiaid y Pharisheaid ar Sabbath, i fwytta bara, hwythau hefyd oeddynt yn Ei wylied Ef. 2Ac wele, rhyw ddyn claf o’r dropsi oedd ger Ei fron. 3A chan atteb, yr Iesu a lefarodd wrth y cyfreithwyr a’r Pharisheaid, gan ddywedyd, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath yw iachau, neu beidio? 4A hwy a dawsant. Ac wedi ei gymmeryd ef, iachaodd ef, a gollyngodd ef ymaith. 5Ac wrthynt hwy y dywedodd, I ba un o honoch y bydd asyn neu ych yn syrthio i bydew, ac na thyn ef allan yn uniawn ar y dydd Sabbath? 6Ac ni allent atteb i’r pethau hyn.
7A dywedodd wrth y gwahoddedigion ddammeg, gan ystyried y modd yr oedd y prif led-orweddleoedd yn cael eu dewis ganddynt, 8gan ddywedyd wrthynt, Pan wahodder di gan neb i neithior, na led-orwedd yn y prif led-orweddle, rhag ysgatfydd bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo, 9a dyfod o’r hwn a’th wahoddodd di ac yntau, a dywedyd o hono wrthyt, Dyro le i hwn, ac yna dechreu o honot, gyda chywilydd, gymmeryd y lle isaf. 10Eithr pan wahodder di, dos a lled-orwedd yn y lle isaf, fel pan ddelo yr hwn a’th wahoddodd, y dywedo wrthyt, Cyfaill, dos i fynu, yn uwch; yna y bydd i ti glod yngwydd pawb sy’n cyd-ledorwedd â thi; 11canys pob un y sy’n dyrchafu ei hun a ostyngir, a’r hwn sy’n ei ostwng ei hun a ddyrchefir.
12A dywedodd wrth yr hwn a’i gwahoddasai Ef, Pan wnelych giniaw neu swpper, na alw dy gyfeillion, na’th frodyr, na’th geraint, na chymmydogion goludog, rhag ysgatfydd iddynt hwy hefyd dy wahodd dithau eilchwyl, 13ac y bo taledigaeth i ti. Eithr pan wnelych wledd, gwahodd dlodion, anafusion, cloffion, deillion, a dedwydd fyddi, 14canys nid oes ganddynt i dalu yn ol i ti, canys telir yn ol i ti yn adgyfodiad y cyfiawnion.
15Ac wedi clywed o ryw un o’r rhai yn cyd-ledorwedd y pethau hyn, dywedodd Wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw. 16Ac Efe a ddywedodd wrtho, Rhyw ddyn a wnaeth swpper mawr, a gwahoddodd lawer: 17a danfonodd ei was bryd swpper i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch, canys weithian parod yw’r pethau. 18A dechreuasant yn un-fryd, bawb ohonynt, ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Tyddyn a brynais, ac y mae arnaf raid i fyned allan a’i weled; gofynaf i ti fy nghymmeryd yn esgusodol. 19Ac arall a ddywedodd, Ieuoedd o ychain a brynais, bump o honynt, a myned yr wyf i’w profi; gofynaf i ti fy nghymmeryd yn esgusodol. 20Ac arall a ddywedodd, Gwraig a briodais, ac am hyny nis gallaf ddyfod. 21Ac wedi dyfod atto, y gwas a fynegodd i’w arglwydd y pethau hyn. Yna, wedi llidio, gŵr y tŷ a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i lydanfeydd ac heolydd y ddinas, ac y tlodion a’r anafusion a’r deillion a’r cloffion dwg i mewn yma. 22A dywedodd y gwas, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist, ac etto y mae lle. 23A dywedodd yr arglwydd wrth y gwas, Dos allan i’r ffyrdd a’r corlannau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn fel y gorlenwer fy nhŷ: 24canys dywedaf wrthych, Ni chaiff yr un o’r gwŷr hyny a wahoddwyd brofi o’m swpper.
25A chyd-deithiai ag Ef dorfeydd mawrion; a chan droi, 26dywedodd wrthynt, Os yw neb yn dyfod Attaf, ac heb gasau ei dad a’i fam a’i wraig a’i frodyr a’i chwiorydd ac hefyd ei einioes ef ei hun, ni all fod Fy nisgybl I. 27Yr hwn na ddycco ei groes, ac sy’n dyfod ar Fy ol, ni all fod Fy nisgybl I. 28Canys pwy o honoch, yn ewyllysio adeiladu tŵr, nad eistedd yn gyntaf a bwrw’r draul a oes ganddo am ei orpheniad, 29rhag ysgatfydd, wedi gosod o hono y sail, ac heb allu dyfod ag ef i ben, i bawb a’i gwelant ddechreu ei watwar ef, 30gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allai ddyfod ag ef i ben. 31Neu, pa frenhin yn myned i gyfarfod â brenhin arall er rhyfel, nad eistedda yn gyntaf ac ymgynghori ai abl yw, â deng mil, i wrthwynebu yr hwn, gydag ugain mil, sy’n dyfod yn ei erbyn? 32Ac os amgen, tra y mae’r llall ym mhell, cennadwri a ddenfyn efe ac a gyfarch well iddo. 33Felly, gan hyny, pob un o honoch nad yw’n canu’n iach i’r holl sy’n perthyn iddo, ni all fod Fy nisgybl I. 34Da, gan hyny, yw’r halen; ond os yr halen hefyd a ddiflasa, â pha beth y cyweirir ef? 35Nac i’r tir, nac i’r dommen, nid yw gymmhwys: allan y taflant ef. Yr hwn sydd a chanddo glustiau i wrando, gwrandawed.

Dewis Presennol:

S. Luc 14: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda