Logo YouVersion
Eicon Chwilio

S. Luc 23

23
1Ac wedi cyfodi o’r holl haws o honynt, dygasant Ef at Pilat; 2a dechreuasant Ei gyhuddo, gan ddywedyd, Hwn a gawsom yn gwyr-droi ein cenedl, ac yn rhwystro rhoi teyrnged i Cesar, ac yn dywedyd mai Efe Ei hun yw Crist Frenhin. 3A Pilat a ofynodd Iddo, gan ddywedyd, Ai Tydi yw Brenhin yr Iwddewon? Ac Efe, gan atteb iddo, a ddywedodd, Ti a ddywedi. 4A Pilat a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid a’r torfeydd, Nid oes dim bai a gaf yn y dyn hwn. 5A hwy oeddynt daerach, gan ddywedyd, Cyffroi’r bobl y mae, gan ddysgu trwy holl Iwdea, ac wedi dechreu o Galilea hyd yma. 6A Pilat, wedi clywed hyn, a ofynodd a oedd y dyn yn Galilead. 7A chan wybod mai o lywodraeth Herod yr ydoedd, danfonodd Ef at Herod, yr hwn oedd yntau hefyd yn Ierwshalem y dyddiau hyny.
8A Herod, wedi gweled yr Iesu, a lawenychodd yn fawr, canys yr oedd er’s amser maith yn ewyllysio Ei weled Ef, o herwydd ei fod yn clywed am Dano; a gobeithiai hefyd weled rhyw arwydd yn cael ei wneuthur Ganddo; 9a holodd Ef â geiriau lawer; ond Efe ni roes ddim atteb iddo. 10A safodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gan Ei gyhuddo yn haerllug. 11A Herod wedi Ei ddiystyru Ef, ynghyda’i filwyr, ac wedi Ei watwar Ef, gan Ei wisgo â gwisg ddisglaer, a’i danfonodd yn Ei ol at Pilat. 12Ac aeth Pilat a Herod yn gyfeillion â’u gilydd y dydd hwnw, canys cyn hyny yr oeddynt mewn gelyniaeth â’u gilydd.
13A Pilat wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid a’r llywiawdwyr a’r bobl, 14a ddywedodd wrthynt, Dygasoch attaf y dyn hwn megis yn gwyrdroi y bobl; ac wele Myfi yn eich gwydd a holais Ef, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, 15o ran y cyhuddiadau genych yn Ei erbyn: nac hyd yn oed Herod, canys danfonodd Ef yn Ei ol attom: ac wele, nid oes dim yn haeddu marwolaeth wedi ei wneuthur Ganddo. 16Wedi ei geryddu, gan hyny, gollyngaf Ef yn rhydd. 18A gwaeddasant, yr holl liaws, gan ddywedyd, Cymmer hwn ymaith, a gollwng yn rhydd i ni Barabbas; 19yr hwn oedd, o achos rhyw derfysg a ddigwyddodd yn y ddinas, a llofruddiaeth, wedi ei daflu i garchar. 20A thrachefn, Pilat a lefarodd wrthynt, gan ewyllysio gollwng yn rhydd yr Iesu: 21a hwy a leisiasant gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia Ef. 22Ac efe, y drydedd waith, a ddywedodd wrthynt, Canys pa ddrwg a wnaeth Hwn? Nid oes ddim bai marwolaeth a gefais Ynddo: wedi ei geryddu, gan hyny, gollyngaf Ef yn rhydd. 23A hwy fuant daerion arno, gyda lleisiau uchel, yn gofyn Ei groes-hoelio Ef; 24a gorfu eu lleisiau hwynt; a Pilat a farnodd wneuthur eu gofyniad; 25a gollyngodd yn rhydd yr hwn o achos terfysg a llofruddiaeth a fwriasid yngharchar, yr hwn a ofynasant: a’r Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt.
26Ac fel y dygent Ef ymaith, wedi cymmeryd gafael yn rhyw Shimon o Cyrene yn dyfod o’r wlad, dodasant arno ef y groes i’w dwyn ar ol yr Iesu.
27Ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd lliaws mawr o bobl, ac o wragedd a wylent ac a alarent o’i blegid Ef: 28ac wedi troi attynt, yr Iesu a ddywedodd,
Merched Ierwshalem, na wylwch o’m plegid I,
Eithr o’ch plegid eich hunain gwylwch, ac o blegid eich plant;
29Canys wele, dyfod y mae’r dyddiau yn y rhai y dywedant,
Gwyn eu byd y gwragedd anffrwythlawn,
A’r crothau nad eppiliasant, a’r bronnau na feithrinasant.
30Yna y dechreuant ddweud wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom,
Ac wrth y bryniau, Gorchuddiwch ni:
31Canys os yn y pren îr y pethau hyn a wnant,
Yn y crin pa beth a ddigwydd?
32A dygpwyd hefyd ddau eraill, drwg-weithredwyr, gydag Ef i’w rhoi i’w marwolaeth.
33A phan ddaethant at y lle a elwir Y Benglog, yno y croes-hoeliasant Ef, a’r drwgweithredwyr, y naill ar y llaw ddehau, a’r llall ar yr aswy. 34A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddeu iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneud. Ac wrth rannu o honynt Ei ddillad, bwriasant goelbren. 35A safai’r bobl yn edrych; ond gwatwar yr oedd y pennaethiaid hefyd, gan ddywedyd, Eraill a waredodd Efe; gwareded Ef Ei hun, os Hwn yw Crist Duw, Y Dewisedig? 36Ac Ei watwar a wnaeth y milwyr hefyd, gan ddyfod Atto, gan gynnyg finegr Iddo, 37a dywedyd, Os Tydi yw brenhin yr Iwddewon, gwared Dy Hun. 38Ac yr oedd hefyd arysgrifen uwch Ei ben,
“Brenhin yr Iwddewon yw Hwn.”
39Ac un o’r drwg-weithredwyr a grogid, a’i cablodd Ef, gan ddywedyd, Onid Tydi wyt y Crist? Gwared Dy Hun a ninnau. 40Ond gan atteb, y llall, yn ei ddwrdio ef, a ddywedodd, Onid ofni di Dduw, gan mai yn yr un condemniad yr wyt? 41A nyni yn wir yn gyfiawn, canys yr hyn a haeddodd ein gweithredoedd a dderbyniwn; ond Hwn, 42nid oes dim allan o’i le a wnaeth Efe: a dywedodd, O Iesu, 43cofia fi pan ddelych yn Dy deyrnas: a dywedodd Efe wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Heddyw ynghyda Mi y byddi ym mharadwys.
44Ac yr oedd hi weithian ynghylch y chweched awr, a thywyllwch ddigwyddodd ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr, yr haul yn diffygio; 45a rhwygwyd llen y deml yn ei chanol; 46a chan lefain â llef uchel, yr Iesu a ddywedodd, Tad, i’th ddwylaw yr wyf yn rhoddi i gadw Fy yspryd; a phan hyn a ddywedasai, trengodd. 47A chan weled o’r canwriad yr hyn a ddigwyddasai, gogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir, y dyn hwn cyfiawn ydoedd. 48A’r holl dorfeydd a oedd yn bresennol wrth y golwg hwn, wedi gweled y pethau a ddigwyddasant, dan guro eu bronnau y dychwelasant. 49A safai Ei holl gydnabod o hirbell, ac y gwragedd y rhai a’i canlynasant Ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.
50Ac wele, gŵr a’i enw Ioseph, ac efe yn gynghorwr, gŵr da a chyfiawn, 51(efe ni fu yn cyttuno â’u cynghor ac â’u gweithred) o Arimathea, dinas yr Iwddewon, yr hwn a ddisgwyliai am deyrnas Dduw, 52hwn wedi myned at Pilat, a ofynodd gorph yr Iesu; 53ac wedi Ei dynu Ef i lawr, amdôdd Ef mewn lliain main; a rhoddodd Ef mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, lle nid oedd neb etto yn gorwedd. 54A dydd y Parottoad ydoedd, a’r Sabbath oedd yn nesau. 55A chan ganlyn, y gwragedd, y rhai a ddaethent o Galilea ynghydag Ef, a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd Ei gorph: 56ac wedi dychwelyd, parottoisant ber-aroglau ac enneiniau.

Dewis Presennol:

S. Luc 23: CTB

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda