Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 16

16
SALM XVI
Cân ddewisol Dafydd.
I. Iehofa yn hyfrydwch y saint.
1Cadw fi, O Dduw, canys caf gysgod ynot Ti.
2Dywedais wrth Iehofa: “Fy Nuw ydwyt,
Ar wahân i Ti nid oes i mi ddaioni”.
3Yn rhagorol y delia Ef â’i saint sydd ar y ddaear;
Ei holl hyfrydwch sydd ynddynt.
4Gofidiau aml sydd i’r neb a ddewiso dduw arall,
Ni thywalltaf eu diod-offrymau gwaedlyd,
Na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
II. Y melystra pennaf yw Ei gymdeithas.
5Iehofa yw fy rhan, a’m hetifeddiaeth, a’m ffiol:
Iehofa a gynnal fy nghyfran.
6Disgynnodd y llinynnau i mi mewn lleoedd hyfryd,
A theg yw’r etifeddiaeth i mi.
7Bendithiaf Iehofa am ei gyngor i mi:
Dysg fy nghydwybod i yn ystod y nosau du.
8Gosodais Iehofa yn gyson o’m blaen:
A thra bo Ef yn fy ymyl, yr wyf yn ddiysgog.
III. Diogel gyda Duw, doed a ddêl.
9Am hynny llawen yw fy nghalon, siriol yw fy ysbryd,
A thrig fy nghorff yn ddiogel.
10Canys ni adewi fi yn Annwn,
Na pheri i un sy’n annwyl gennyt weld y Pydew.
11Cyfrinach llwybr bywyd a ddangosi i mi,
Sef y llawenydd llawn digonol sydd yn Dy bresenoldeb,
A’r digrifwch dwys sydd yn Dy ymyl byth.
salm xvi
Un o chwech o Salmau a ddug deitl cyffelyb, sef Michtam Dafydd, cân euraid neu ddewisol. Aeth y Salm hon ar gyfeiliorn oddi wrth ei thylwyth. (Gwêl Salmau 56—60).
Yn briodol iawn y gelwir hi’n Salm Ffydd, a phrin y dengys unrhyw ddarn arall o Ysgrythur odidoced peth oedd y grefydd Iddewig ar ei gorau.
Nodiadau
2. Nid oes angen ‘enaid’ yn y frawddeg. Doda’r Salmydd pob ymddiriedaeth am ei ffyniant yn Nuw.
3. Rhaid yw gwneud y gorau o destun llygredig. Dyma ddarlleniadau eraill: “I’r saint sydd yn y tir, dengys Iehofa anrhydedd”. “I’r saint sydd yn y tir, Dy ddilynwyr rhagorol, ynddynt mae Fy holl hyfrydwch”,
4. Gellir darlleniad arall, sef “Gofidiau aml sydd i’r gwrthgilwyr”, a rhy hyn synnwyr da. Cyfeirio a wna’r adnod at eilunaddoliaeth Syria a Phalesteina a ffynnai yn y wlad yn nyddiau olaf y Gaethglud. Ond gellir darllen, “ni thywalltaf eu diod-offrymau oherwydd gwaed”, oherwydd mai gwŷr gwaedlyd sydd yn eu hoffrymu. Gwrthod cymryd eu henwau ar ei wefusau ydyw ymwadu yn llwyr â hwynt, sef a’r dynion gwaedlyd a’r eilun-addolwyr.
5. “Fy rhan — fy etifeddiaeth — fy ffiol”. Gwêl Num. 18:20 lle dywedir nad oedd i’r Lefiaid na rhan nac etifeddiaeth namyn Iehofa ei hun.
“Pa beth bynnag a ddymuna gall ei feddiannu yn Nuw, a pha beth bynnag a feddianna yn Nuw, y mae Duw yn ei ddiogelu iddo” yn wyneb pob gelyn.
6. Y lleoedd hyfryd a fesurwyd iddo gan y llinynnau ydyw Canaan, y ddaear santaidd, a’i etifeddiaeth deg yw Iehofa ei hunan.
7. Ystyrid yr ‘arennau’ fel crud a tharddle y teimladau, ond gwell ei gyfieithu yn ‘gydwybod’. Cyfystyr ydyw ‘llais ei gydwybod yn y nosau du’ â chyngor Iehofa. Y mae ei gydwybod yn ategu’r cyngor.
10. Yn y cyfieithiad Cymraeg arferol, “ni adewi fy enaid yn uffern”. Y mae ‘fy enaid’ yn gyfystyr a ‘myfi’, a saif uffern am ‘Sheol’, neu ‘Hades’. Bro y cysgodion yw Sheol, ac yno y disgyn y da a’r drwg yn ddiwahaniaeth. Rhywle yn iselderau’r ddaear y mae’r fro hon, ac nid oes yno gosbi na gwobrwyo, na chymdeithas â dyn na Duw, adlewyrch gwelw a gwannaidd o’r bywyd hwn sydd yno. Dilynwn Thomas Briscoe a chyfieithu Sheol gan Annwn, ond dylai’r diwyd droi i dudalen 99 “Pedeir Keinc y Mabinogi” gan Ifor Williams a darllen ei nodyn golau ef ar Annwfn.
Y mae ‘llygredigaeth’ yr hen gyfieithiad yn amhosibl. Nid y bedd ychwaith yw’r gair a gyfieithir ‘pydew’ uchod, ond enw arall am Sheol.
Pwnc i’w Drafod:
Dyry y ddwy adnod olaf y pwnc mawr sydd i’w drafod ynglŷn â’r Salm hon. A oes yma gyfeiriad at fywyd anfarwol tu hwnt i’r bedd? A ydyw’r Salmydd yn edrych dros y gorwel pell i fyd arall?
Prin yw cyfeiriadau’r Salmau at fywyd ar ôl hwn, yn wir ni chynnwys unrhyw gyfeiriad pendant a diamwys oni chytunir fod yma gyfeiriad felly.
Gobaith yr Hebrewr oedd cael hiroes ar y ddaear, a byw drachefn yn ei blant a’i wyrion. Y mae’n anodd felly credu bod y Salm hon yn cyfeirio at anfarwoldeb a bywyd ysbrydol newydd a ddechreua pan ddigwyddo angau i ddyn.
Ond beth ynteu yw ystyr y ddwy adnod olaf? Traethu ei ffydd a wna’r Salmydd na ddichon dim ei wahanu oddi wrth ei Arglwydd Iehofa, — ni all Sheol ei wahanu, fe ddisgyn i’r Pydew hwn yn hyderus a di-ofn gan ei fod Ef yn ei ymyl. Ac os bydd Iehofa yn ei ymyl yn Sheol fe ddichon Iddo ddatguddio i’w ‘un annwyl’ gyfrinach llwybr bywyd, a throi y fangre honno yn fan llawenydd a digrifwch.
Ond ni ddengys neb yn yr Hen Destament ffydd ddewrach nag awdur y Salm hon.

Dewis Presennol:

Salmau 16: SLV

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda