1 Cronicl 24
24
1Dyma ddosbarthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar. 2A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleasar ac Ithamar a offeiriadasant. 3A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleasar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ôl eu swyddau, yn eu gwasanaeth. 4A chafwyd mwy o feibion Eleasar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleasar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ôl tŷ eu tadau, wyth. 5Felly y dosbarthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyda’r llall; canys tywysogion y cysegr, a thywysogion tŷ Dduw, oedd o feibion Eleasar, ac o feibion Ithamar. 6A Semaia mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a’u hysgrifennodd hwynt gerbron y brenin, a’r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abiathar, a phencenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleasar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar. 7A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a’r ail i Jedaia, 8Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim, 9Y pumed i Malcheia, y chweched i Mijamin, 10Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abeia, 11Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechaneia, 12Yr unfed ar ddeg i Eliasib, y deuddegfed i Jacim, 13Y trydydd ar ddeg i Huppa, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab, 14Y pymthegfed i Bilga, yr unfed ar bymtheg i Immer, 15Y ddeufed ar bymtheg i Hesir, y deunawfed i Affses, 16Y pedwerydd ar bymtheg i Pethaheia, yr ugeinfed i Jehesecel, 17Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul, 18Y trydydd ar hugain i Delaia, y pedwerydd ar hugain i Maaseia. 19Dyma eu dosbarthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ôl eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchmynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef.
20A’r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeia. 21Am Rehabia; Isia oedd ben ar feibion Rehabia. 22O’r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath. 23A meibion Hebron oedd, Jereia y cyntaf, Amareia yr ail, Jahasiel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd. 24O feibion Ussiel; Micha: o feibion Micha; Samir. 25Brawd Micha oedd Isia; o feibion Isia; Sechareia. 26Meibion Merari oedd, Mahli a Musi: meibion Jaasei; Beno.
27Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a Soham, a Saccur, ac Ibri. 28O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion. 29Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel. 30A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau. 31A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau-cenedl yr offeiriaid a’r Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuangaf.
Dewis Presennol:
1 Cronicl 24: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.