1 Brenhinoedd 22
22
1A buant yn aros dair blynedd heb ryfel rhwng Syria ac Israel. 2Ac yn y drydedd flwyddyn, Jehosaffat brenin Jwda a ddaeth i waered at frenin Israel. 3A brenin Israel a ddywedodd wrth ei weision, Oni wyddoch mai eiddo ni yw Ramoth-gilead, a’n bod ni yn tewi, heb ei dwyn hi o law brenin Syria? 4Ac efe a ddywedodd wrth Jehosaffat, A ei gyda mi i ryfel i Ramoth-gilead? A Jehosaffat a ddywedodd wrth frenin Israel, Yr ydwyf fi fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau. 5Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr Arglwydd. 6Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn Ramoth-gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin. 7A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i’r Arglwydd mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef? 8A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â’r Arglwydd: eithr cas yw gennyf fi ef; canys ni phroffwyda efe i mi ddaioni, namyn drygioni; Michea mab Jimla yw efe. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly. 9Yna brenin Israel a alwodd ar un o’i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura yma Michea mab Jimla. 10A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi gwisgo eu brenhinol wisgoedd, mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a’r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt. 11A Sedeceia mab Cenaana a wnaeth iddo gyrn heyrn; ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, A’r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt. 12A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth-gilead, a llwydda; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin. 13A’r gennad a aethai i alw Michea a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele yn awr eiriau y proffwydi yn unair yn dda i’r brenin: bydded, atolwg, dy air dithau fel gair un ohonynt, a dywed y gorau. 14A dywedodd Michea, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hyn a ddywedo yr Arglwydd wrthyf, hynny a lefaraf fi.
15Felly efe a ddaeth at y brenin. A’r brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio? Dywedodd yntau wrtho, Dos i fyny, a llwydda; canys yr Arglwydd a’i dyry hi yn llaw y brenin. 16A’r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y’th dynghedaf di, na ddywedych wrthyf ond gwirionedd yn enw yr Arglwydd? 17Ac efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel ar wasgar ar hyd y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr Arglwydd, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i’w dŷ ei hun mewn heddwch. 18A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt ti, na phroffwydai efe ddaioni i mi, eithr drygioni? 19Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr Arglwydd: Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll yn ei ymyl, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy. 20A’r Arglwydd a ddywedodd, Pwy a dwylla Ahab, fel yr elo efe i fyny ac y syrthio yn Ramoth-gilead? Ac un a ddywedodd fel hyn, ac arall oedd yn dywedyd fel hyn. 21Ac ysbryd a ddaeth allan, ac a safodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Myfi a’i twyllaf ef. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pa fodd? 22Dywedodd yntau, Mi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. Ac efe a ddywedodd, Twylli a gorchfygi ef: dos ymaith, a gwna felly. 23Ac yn awr wele, yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy holl broffwydi hyn; a’r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti. 24Ond Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi? 25A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio. 26A brenin Israel a ddywedodd, Cymer Michea, a dwg ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin; 27A dywed, Fel hyn y dywed y brenin; Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod mewn heddwch. 28A dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi. Dywedodd hefyd, Gwrandewch hyn yr holl bobl. 29Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-gilead. 30A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i’r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad dy hun. A brenin Israel a newidiodd ei ddillad, ac a aeth i’r rhyfel. 31A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau oedd ganddo, sef deuddeg ar hugain, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig. 32A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Diau brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: a Jehosaffat a waeddodd. 33A phan welodd tywysogion y cerbydau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. 34A rhyw ŵr a dynnodd mewn bwa ar ei amcan, ac a drawodd frenin Israel rhwng cysylltiadau y llurig; am hynny efe a ddywedodd wrth ei gerbydwr, Tro dy law, a dwg fi allan o’r fyddin; canys fe a’m clwyfwyd i. 35A’r rhyfel a gryfhaodd y dwthwn hwnnw: a’r brenin a gynhelid i fyny yn ei gerbyd yn erbyn y Syriaid; ac efe a fu farw gyda’r hwyr: a gwaed yr archoll a ffrydiodd i ganol y cerbyd. 36Ac fe aeth cyhoeddiad trwy y gwersyll ynghylch machludiad yr haul, gan ddywedyd, Eled pob un i’w ddinas, a phob un i’w wlad ei hun.
37Felly y bu farw y brenin, ac y daeth efe i Samaria; a hwy a gladdasant y brenin yn Samaria. 38A golchwyd ei gerbyd ef yn llyn Samaria; a’r cŵn a lyfasant ei waed ef: yr arfau hefyd a olchwyd; yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe. 39A’r rhan arall o hanesion Ahab, a’r hyn oll a wnaeth efe, a’r tŷ ifori a adeiladodd efe, a’r holl ddinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 40Felly Ahab a hunodd gyda’i dadau; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
41A Jehosaffat mab Asa a aeth yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel. 42Jehosaffat oedd fab pymtheng mlwydd ar hugain pan aeth efe yn frenin: a phum mlynedd ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Asuba, merch Silhi. 43Ac efe a rodiodd yn holl ffordd Asa ei dad, ni ŵyrodd efe oddi wrthi hi, gan wneuthur yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. 44A Jehosaffat a heddychodd â brenin Israel. 45A’r rhan arall o hanes Jehosaffat, a’i rymustra a wnaeth efe, a’r modd y rhyfelodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 46A’r rhan arall o’r sodomiaid a’r a adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef, efe a’u dileodd o’r wlad. 47Yna nid oedd brenin yn Edom: ond rhaglaw oedd yn lle brenin. 48Jehosaffat a wnaeth longau môr i fyned i Offir am aur: ond nid aethant; canys y llongau a ddrylliodd yn Esion-gaber. 49Yna y dywedodd Ahaseia mab Ahab wrth Jehosaffat, Eled fy ngweision i gyda’th weision di yn y llongau: ond ni fynnai Jehosaffat.
50A Jehosaffat a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehoram ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
51Ahaseia mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd. 52Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ffordd ei fam, ac yn ffordd Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 53Canys efe a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo, ac a ddigiodd Arglwydd Dduw Israel, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.
Dewis Presennol:
1 Brenhinoedd 22: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.