Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio; A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain. Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb. Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb. Byddwch lawen yn wastadol. Gweddïwch yn ddi-baid. Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi. Na ddiffoddwch yr Ysbryd. Na ddirmygwch broffwydoliaethau. Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda. Ymgedwch rhag pob rhith drygioni. A gwir Dduw’r tangnefedd a’ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a’ch enaid, a’ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist. Ffyddlon yw’r hwn a’ch galwodd, yr hwn hefyd a’i gwna. O frodyr, gweddïwch drosom. Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol. Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i’r holl frodyr sanctaidd. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen. Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.
Darllen 1 Thesaloniaid 5
Gwranda ar 1 Thesaloniaid 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Thesaloniaid 5:12-28
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos