Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Thesaloniaid 5:12-28

1 Thesaloniaid 5:12-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ffrindiau annwyl, dŷn ni am i chi werthfawrogi’r bobl hynny sy’n gweithio’n galed yn eich plith chi. Maen nhw’n gofalu amdanoch chi ac yn eich dysgu chi sut i fyw yn ffyddlon i’r Arglwydd. Dylech chi wir eu parchu nhw a dangos cariad mawr tuag atyn nhw o achos y gwaith maen nhw’n ei wneud. Dylech fyw’n heddychlon gyda’ch gilydd. A ffrindiau annwyl, dŷn ni’n apelio ar i chi rybuddio’r bobl hynny sy’n bod yn ddiog, annog y rhai sy’n ddihyder, helpu’r rhai gwan, a bod yn amyneddgar gyda phawb. Peidiwch gadael i bobl dalu’r pwyth yn ôl i eraill. Ceisiwch wneud lles i’ch gilydd bob amser, ac i bobl eraill hefyd. Peidiwch byth â stopio gorfoleddu! Daliwch ati i weddïo. Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy’n perthyn i’r Meseia Iesu. Peidiwch bod yn rhwystr i waith yr Ysbryd Glân. Peidiwch wfftio proffwydoliaethau. Dylech bwyso a mesur pob un, a dal gafael yn beth sy’n dda. Cadwch draw oddi wrth bob math o ddrygioni. Dw i’n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy’n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi’n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan – yn ysbryd, enaid a chorff – yn cael ei gadw’n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl. Mae’r Duw sy’n eich galw chi yn ffyddlon, a bydd yn gwneud hyn. Gweddïwch droson ni, ffrindiau. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Dw i’n eich siarsio chi ar ran yr Arglwydd ei hun i wneud yn siŵr fod y brodyr a’r chwiorydd i gyd yn clywed y llythyr yma yn cael ei ddarllen. Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol mae ein Harglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.