1 Timotheus 1
1
1Paul, apostol Iesu Grist, yn ôl gorchymyn Duw ein Hiachawdwr, a’r Arglwydd Iesu Grist, ein gobaith: 2At Timotheus, fy mab naturiol yn y ffydd: Gras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a Crist Iesu ein Harglwydd. 3Megis y deisyfais arnat aros yn Effesus, pan euthum i Facedonia, fel y gellit rybuddio rhai na ddysgont ddim amgen, 4Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorffen, y rhai sydd yn peri cwestiynau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon sydd trwy ffydd; gwna felly. 5Eithr diwedd y gorchymyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith: 6Oddi wrth yr hyn bethau y gwyrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer siarad; 7Gan ewyllysio bod yn athrawon o’r ddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru. 8Eithr nyni a wyddom mai da yw’r gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlon; 9Gan wybod hyn, nad i’r cyfiawn y rhoddwyd y gyfraith, eithr i’r rhai digyfraith ac anufudd, i’r rhai annuwiol a phechaduriaid, i’r rhai disanctaidd a halogedig, i dad-leiddiaid a mam-leiddiaid, i leiddiaid dynion, 10I buteinwyr, i wryw-gydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac os oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus; 11Yn ôl efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi. 12Ac yr ydwyf yn diolch i’r hwn a’m nerthodd i, sef Crist Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth; 13Yr hwn oeddwn o’r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur trwy anghrediniaeth. 14A gras ein Harglwydd ni a dra-amlhaodd gyda ffydd a chariad, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu. 15Gwir yw’r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid; o ba rai, pennaf ydwyf i. 16Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosai Iesu Grist ynof fi yn gyntaf bob hiroddef, er siampl i’r rhai a gredant rhag llaw ynddo ef i fywyd tragwyddol. 17Ac i’r Brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i’r Duw unig ddoeth, y byddo anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen. 18Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ôl y proffwydoliaethau a gerddasant o’r blaen amdanat, ar filwrio ohonot ynddynt filwriaeth dda; 19Gan fod gennyt ffydd, a chydwybod dda; yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant longddrylliad am y ffydd: 20O ba rai y mae Hymeneus ac Alexander; y rhai a roddais i Satan, fel y dysgent na chablent.
Dewis Presennol:
1 Timotheus 1: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.