2 Cronicl 36
36
1Yna pobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle ei dad yn Jerwsalem. 2Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan ddechreuodd efe deyrnasu; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 3A brenin yr Aifft a’i diswyddodd ef yn Jerwsalem; ac a drethodd ar y wlad gan talent o arian, a thalent o aur. 4A brenin yr Aifft a wnaeth Eliacim ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, ac a drodd ei enw ef yn Joacim. A Necho a gymerodd Joahas ei frawd ef, ac a’i dug i’r Aifft.
5Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw. 6Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fyny yn ei erbyn ef, ac a’i rhwymodd ef mewn cadwynau pres, i’w ddwyn i Babilon. 7Nebuchodonosor hefyd a ddug o lestri tŷ yr Arglwydd i Babilon, ac a’u rhoddodd hwynt yn ei deml o fewn Babilon. 8A’r rhan arall o hanes Joacim, a’i ffieidd-dra ef y rhai a wnaeth efe, a’r hyn a gafwyd arno ef, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda. A Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
9Mab wyth mlwydd oedd Joachin pan ddechreuodd efe deyrnasu, a thri mis a deng niwrnod y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd. 10Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a’i dug ef i Babilon, gyda llestri dymunol tŷ yr Arglwydd: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
11Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. 12Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd ei Dduw, ac nid ymostyngodd efe o flaen Jeremeia y proffwyd, yr hwn oedd yn llefaru o enau yr Arglwydd. 13Ond efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Nebuchodonosor, yr hwn a wnaethai iddo dyngu i Dduw: ond efe a galedodd ei war, ac a gryfhaodd ei galon, rhag dychwelyd at Arglwydd Dduw Israel.
14Holl dywysogion yr offeiriaid hefyd, a’r bobl, a chwanegasant gamfucheddu, yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd; a hwy a halogasant dŷ yr Arglwydd, yr hwn a sancteiddiasai efe yn Jerwsalem. 15Am hynny Arglwydd Dduw eu tadau a anfonodd atynt hwy trwy law ei genhadau, gan foregodi, ac anfon: am ei fod ef yn tosturio wrth ei bobl, ac wrth ei breswylfod. 16Ond yr oeddynt hwy yn gwatwar cenhadau Duw, ac yn tremygu ei eiriau ef, ac yn gwawdio ei broffwydi ef; nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel nad oedd iachâd. 17Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuainc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na gŵr ieuanc na morwyn, na hen, na’r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef. 18Holl lestri tŷ Dduw hefyd, mawrion a bychain, a thrysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau y brenin a’i dywysogion: y rhai hynny oll a ddug efe i Babilon. 19A hwy a losgasant dŷ Dduw, ac a ddistrywiasant fur Jerwsalem; a’i holl balasau hi a losgasant hwy â than, a’i holl lestri dymunol a ddinistriasant. 20A’r rhai a ddianghasai gan y cleddyf a gaethgludodd efe i Babilon; lle y buant hwy yn weision iddo ef ac i’w feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid: 21I gyflawni gair yr Arglwydd trwy enau Jeremeia, nes mwynhau o’r wlad ei Sabothau; canys yr holl ddyddiau y bu hi yn anghyfannedd, y gorffwysodd hi, i gyflawni deng mlynedd a thrigain.
22Ac yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, fel y cyflawnid gair yr Arglwydd yr hwn a ddywedwyd trwy enau Jeremeia, yr Arglwydd a gyffrôdd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl frenhiniaeth, a hynny mewn ysgrifen, gan ddywedyd, 23Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef? yr Arglwydd ei Dduw fyddo gydag ef, ac eled i fyny.
Dewis Presennol:
2 Cronicl 36: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.