Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr ARGLWYDD; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr ARGLWYDD; Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai dŷ DDUW.
Darllen 2 Cronicl 5
Gwranda ar 2 Cronicl 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Cronicl 5:13-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos