2 Cronicl 5:13-14
2 Cronicl 5:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac fel yr oedd yr utganwyr a'r cantorion yn uno mewn mawl a chlod i'r ARGLWYDD ac yn seinio trwmpedau, symbalau ac offer cerdd er moliant iddo, gan ddweud, “Yn wir da yw, ac y mae ei gariad hyd byth”, llanwyd tŷ'r ARGLWYDD gan gwmwl. Felly ni fedrai'r offeiriaid barhau i weinyddu o achos y cwmwl; yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi tŷ Dduw.
2 Cronicl 5:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y cerddorion a’r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda’i gilydd i roi mawl a diolch i’r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a’r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli’r ARGLWYDD a chanu’r geiriau, “Mae e mor dda aton ni; Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!” Tra oedden nhw’n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi’r deml. Doedd yr offeiriaid ddim yn gallu cario ymlaen gyda’i gwaith o achos y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi Teml Dduw.
2 Cronicl 5:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr ARGLWYDD; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr ARGLWYDD; Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr ARGLWYDD a lanwasai dŷ DDUW.