Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 6

6
1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Yn awr y cei weled beth a wnaf i Pharo: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyr efe hwynt o’i wlad. 2Duw hefyd a lefarodd wrth Moses, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw JEHOFAH. 3A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, dan enw Duw Hollalluog; ond erbyn fy enw JEHOFAH ni bûm adnabyddus iddynt. 4Hefyd mi a sicrheais fy nghyfamod â hwynt, am roddi iddynt wlad Canaan, sef gwlad eu hymdaith, yr hon yr ymdeithiasant ynddi. 5A mi a glywais hefyd uchenaid plant Israel, y rhai y mae yr Eifftiaid yn eu caethiwo; a chofiais fy nghyfamod. 6Am hynny dywed wrth feibion Israel, Myfi yw yr Arglwydd; a myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid, ac a’ch rhyddhaf o’u caethiwed hwynt; ac a’ch gwaredaf â braich estynedig, ac â barnedigaethau mawrion. 7Hefyd mi a’ch cymeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Eifftiaid. 8A mi a’ch dygaf chwi i’r wlad, am yr hon y tyngais y rhoddwn hi i Abraham, i Isaac, ac i Jacob; a mi a’i rhoddaf i chwi yn etifeddiaeth: myfi yw yr Arglwydd.
9A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra ysbryd, a chan gaethiwed caled. 10A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 11Dos i mewn; dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, am iddo ollwng meibion Israel allan o’i wlad. 12A Moses a lefarodd gerbron yr Arglwydd, gan ddywedyd, Wele, plant Israel ni wrandawsant arnaf fi; a pha fodd y’m gwrandawai Pharo, a minnau yn ddienwaededig o wefusau? 13A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, ac a roddodd orchymyn iddynt at feibion Israel, ac at Pharo brenin yr Aifft, i ddwyn meibion Israel allan o wlad yr Aifft.
14Dyma eu pencenedl hwynt: meibion Reuben, y cyntaf-anedig i Israel: Hanoch, a Phalu, Hesron, a Charmi: dyma deuluoedd Reuben. 15A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, Ohad, a Jachin, Sohar hefyd, a Saul mab y Ganaanëes: dyma deuluoedd Simeon.
16Dyma hefyd enwau meibion Lefi, yn ôl eu cenedlaethau; Gerson, Cohath hefyd, a Merari: a blynyddoedd oes Lefi oedd gant ac onid tair blynedd deugain. 17Meibion Gerson; Libni, a Simi, yn ôl eu teuluoedd. 18A meibion Cohath; Amram, ac Ishar, Hebron hefyd, ac Ussiel: a blynyddoedd oes Cohath oedd dair ar ddeg ar hugain a chan mlynedd. 19Meibion Merari oedd Mahali a Musi: dyma deuluoedd Lefi, yn ôl eu cenedlaethau. 20Ac Amram a gymerodd Jochebed, ei fodryb chwaer ei dad, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram oedd onid tair deugain a chan mlynedd.
21A meibion Ishar; Cora, a Neffeg, a Sicri. 22A meibion Ussiel; Misael, ac Elsaffan, a Sithri. 23Ac Aaron a gymerodd Eliseba, merch Aminadab, chwaer Nahason, yn wraig iddo; a hi a ymddûg iddo Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar. 24Meibion Cora hefyd; Assir, ac Elcana, ac Abiasaff: dyma deuluoedd y Corahiaid. 25Ac Eleasar, mab Aaron, a gymerodd yn wraig iddo un o ferched Putiel; a hi a ymddûg iddo ef Phineas: dyma bennau cenedl y Lefiaid, yn ôl eu teuluoedd. 26Dyma Aaron a Moses, y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt, Dygwch feibion Israel allan o wlad yr Aifft, yn ôl eu lluoedd. 27Dyma y rhai a lefarasant wrth Pharo, brenin yr Aifft, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aifft: dyma y Moses ac Aaron hwnnw.
28A bu, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aifft, 29Lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Myfi yw yr Arglwydd: dywed wrth Pharo, brenin yr Aifft, yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei ddywedyd wrthyt. 30A dywedodd Moses gerbron yr Arglwydd, Wele fi yn ddienwaededig o wefusau; a pha fodd y gwrendy Pharo arnaf?

Dewis Presennol:

Exodus 6: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda