Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Esra 4

4
1Yna gwrthwynebwyr Jwda a Benjamin a glywsant fod meibion y gaethglud yn adeiladu y deml i Arglwydd Dduw Israel; 2Ac a ddaethant at Sorobabel, ac at y pennau-cenedl, ac a ddywedasant wrthynt, Adeiladwn gyda chwi: canys fel chwithau y ceisiwn eich Duw chwi; ac iddo ef yr ydym ni yn aberthu, er dyddiau Esarhadon brenin Assyria, yr hwn a’n dug ni i fyny yma. 3Eithr dywedodd Sorobabel a Jesua, a’r rhan arall o bennau-cenedl Israel, wrthynt, Nid yw i chwi ac i ninnau adeiladu tŷ i’n Duw ni; eithr nyni a gyd-adeiladwn i Arglwydd Dduw Israel, megis y’n gorchmynnodd y brenin Cyrus, brenin Persia. 4A phobl y wlad oedd yn anghysuro pobl Jwda, ac yn eu rhwystro hwy i adeiladu, 5Ac yn cyflogi cynghorwyr yn eu herbyn hwynt, i ddiddymu eu cyngor hwynt, holl ddyddiau Cyrus brenin Persia, a hyd deyrnasiad Dareius brenin Persia. 6Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.
7Ac yn nyddiau Artacsercses yr ysgrifennodd Bislam, Mithredath, Tabeel, a’r rhan arall o’u cyfeillion, at Artacsercses brenin Persia; ac ysgrifen y llythyr a ysgrifennwyd yn Syriaeg, ac a eglurwyd yn Syriaeg. 8Rehum y cofiadur a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifenasant lythyr yn erbyn Jerwsalem at Artacsercses y brenin, fel hyn: 9Yna yr ysgrifennodd Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion, y Dinaiaid, yr Affarsathchiaid, y Tarpeliaid, yr Affarsiaid, yr Archefiaid, y Babiloniaid, y Susanchiaid, y Dehafiaid, yr Elamiaid, 10A’r rhan arall o’r bobl y rhai a ddug Asnappar mawr ac enwog, ac a osododd efe yn ninasoedd Samaria, a’r rhan arall tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser.
11Dyma ystyr y llythyr a anfonasant ato ef, sef at Artacsercses y brenin; Dy wasanaethwyr o’r tu yma i’r afon, a’r amser a’r amser. 12Bid hysbys i’r brenin, fod yr Iddewon a ddaethant i fyny oddi wrthyt ti atom ni, wedi dyfod i Jerwsalem, ac yn adeiladu y ddinas wrthryfelgar ddrygionus, a’r muriau a sylfaenasant hwy, ac a gydwniasant y sylfaenau. 13Yn awr bydded hysbys i’r brenin, os adeiledir y ddinas hon, a gorffen ei chaerau, na roddant na tholl, na theyrnged, na threth; felly y drygi drysor y brenhinoedd. 14Ac yn awr oherwydd ein bod ni yn cael ein cynhaliaeth o lys y brenin, ac nad oedd weddaidd i ni weled gwarth y brenin; am hynny yr anfonasom ac yr hysbysasom i’r brenin, 15Fel y ceisier yn llyfr historïau dy dadau: a thi a gei yn llyfr yr historïau, ac a elli wybod, fod y ddinas hon yn ddinas wrthryfelgar, niweidiol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod yn gwneuthur brad-fwriad o fewn hon er ys talm: am hynny y dinistriwyd y ddinas hon. 16Yr ydym yn hysbysu i’r brenin, os y ddinas hon a adeiledir, a’r muriau a sylfaenir, wrth hynny ni fydd i ti ran o’r tu yma i’r afon.
17Yna yr anfonodd y brenin air at Rehum y cofiadur, a Simsai yr ysgrifennydd, a’r rhan arall o’u cyfeillion hwynt y rhai a drigent yn Samaria, ac at y lleill o’r tu hwnt i’r afon, Tangnefedd, a’r amser a’r amser. 18Y llythyr a anfonasoch ataf, a ddarllenwyd yn eglur ger fy mron. 19A mi a osodais orchymyn, a chwiliwyd; a chafwyd fod y ddinas hon er ys talm yn ymddyrchafu yn erbyn brenhinoedd, a gwneuthur ynddi anufudd-dod a gwrthryfel. 20A brenhinoedd cryfion a fu ar Jerwsalem, yn llywodraethu ar bawb o’r tu hwnt i’r afon; ac iddynt hwy y rhoddid toll, teyrnged, a threth. 21Yn awr rhoddwch orchymyn, i beri i’r gwŷr hynny beidio, ac nad adeilader y ddinas honno, hyd oni roddwyf fi orchymyn eto. 22A gwyliwch wneuthur yn amryfus yn hyn: paham y tyf niwed i ddrygu y brenhinoedd?
23Yna pan ddarllenwyd ystyr llythyr Artacsercses y brenin o flaen Rehum a Simsai yr ysgrifennydd, a’u cyfeillion, hwy a aethant i fyny ar frys i Jerwsalem at yr Iddewon, ac a wnaethant iddynt beidio trwy fraich a chryfder. 24Yna y peidiodd gwaith tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem; ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.

Dewis Presennol:

Esra 4: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda