Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 3

3
1O y Galatiaid ynfyd, pwy a’ch llygad-dynnodd chwi fel nad ufuddhaech i’r gwirionedd, i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groeshoelio yn eich plith? 2Hyn yn unig a ewyllysiaf ei ddysgu gennych; Ai wrth weithredoedd y ddeddf y derbyniasoch yr Ysbryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd? 3A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechrau yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd? 4A ddioddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd. 5Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae? 6Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. 7Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham. 8A’r ysgrythur yn rhagweled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y cenhedloedd, a ragefengylodd i Abraham, gan ddywedyd, Ynot ti y bendithir yr holl genhedloedd. 9Felly gan hynny, y rhai sydd o ffydd a fendithir gydag Abraham ffyddlon. 10Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt. 11Ac na chyfiawnheir neb trwy’r ddeddf gerbron Duw, eglur yw: oblegid, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd. 12A’r ddeddf nid yw o ffydd: eithr, Y dyn a wna’r pethau hynny, a fydd byw ynddynt. 13Crist a’n llwyr brynodd oddi wrth felltith y ddeddf, gan ei wneuthur yn felltith trosom: canys y mae yn ysgrifenedig, Melltigedig yw pob un sydd yng nghrog ar bren: 14Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu; fel y derbyniem addewid yr Ysbryd trwy ffydd. 15Y brodyr, dywedyd yr wyf ar wedd ddynol; Cyd na byddo ond amod dyn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymu, neu yn rhoddi ato. 16I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac i’w had ef. Nid yw yn dywedyd, Ac i’w hadau, megis am lawer; ond megis am un, Ac i’th had di, yr hwn yw Crist. 17A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, am yr amod a gadarnhawyd o’r blaen gan Dduw yng Nghrist, nad yw’r ddeddf, oedd bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymu, i wneuthur yr addewid yn ofer. 18Canys os o’r ddeddf y mae’r etifeddiaeth, nid yw haeach o’r addewid: ond Duw a’i rhad roddodd i Abraham trwy addewid. 19Beth gan hynny yw’r ddeddf? Oblegid troseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelai’r had, i’r hwn y gwnaethid yr addewid; a hi a drefnwyd trwy angylion yn llaw cyfryngwr. 20A chyfryngwr nid yw i un; ond Duw sydd un. 21A ydyw’r ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na ato Duw: canys pe rhoesid deddf a allasai fywhau, yn wir o’r ddeddf y buasai cyfiawnder. 22Eithr cydgaeodd yr ysgrythur bob peth dan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist i’r rhai sydd yn credu. 23Eithr cyn dyfod ffydd, y’n cadwyd dan y ddeddf, wedi ein cyd-gau i’r ffydd, yr hon oedd i’w datguddio. 24Y ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd. 25Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dan athro. 26Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. 27Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. 28Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. 29Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.

Dewis Presennol:

Galatiaid 3: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda