Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 10

10
1A dyma genedlaethau meibion Noa: Sem, Cham, a Jaffeth; ganwyd meibion hefyd i’r rhai hyn wedi’r dilyw.
2Meibion Jaffeth oedd Gomer, a Magog, a Madai, a Jafan, a Thubal, a Mesech, a Thiras. 3Meibion Gomer hefyd; Ascenas, a Riffath, a Thogarma. 4A meibion Jafan; Elisa, a Tharsis, Cittim, a Dodanim. 5O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, yn eu cenhedloedd.
6A meibion Cham oedd Cus, a Misraim, a Phut, a Chanaan. 7A meibion Cus; Seba, a Hafila, a Sabta, a Raama, a Sabteca: a meibion Raama; Seba, a Dedan. 8Cus hefyd a genhedlodd Nimrod: efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaear. 9Efe oedd heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, Fel Nimrod, heliwr cadarn gerbron yr Arglwydd. 10A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Accad, a Chalne, yng ngwlad Sinar. 11O’r wlad honno yr aeth Assur allan, ac a adeiladodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chala, 12A Resen, rhwng Ninefe a Chala; honno sydd ddinas fawr. 13Misraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nafftwhim, 14Pathrusim hefyd a Chasluhim, (o’r rhai y daeth Philistim,) a Chafftorim.
15Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntaf-anedig, a Heth, 16A’r Jebusiad, a’r Amoriad, a’r Girgasiad, 17A’r Hefiad, a’r Arciad, a’r Siniad, 18A’r Arfadiad, a’r Semariad, a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwasgarodd teuluoedd y Canaaneaid. 19Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon, ffordd yr elych i Gerar, hyd Gasa: y ffordd yr elych i Sodom, a Gomorra, ac Adma, a Seboim, hyd Lesa. 20Dyma feibion Cham, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd, yn eu gwledydd, ac yn eu cenhedloedd.
21I Sem hefyd y ganwyd plant; yntau oedd dad holl feibion Heber, a brawd Jaffeth yr hynaf. 22Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arffacsad, a Lud, ac Aram. 23A meibion Aram; Us, a Hul, a Gether, a Mas. 24Ac Arffacsad a genhedlodd Sela, a Sela a genhedlodd Heber. 25Ac i Heber y ganwyd dau o feibion: enw un oedd Peleg; oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear; ac enw ei frawd, Joctan. 26A Joctan a genhedlodd Almodad, a Saleff, a Hasarmafeth, a Jera, 27Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla, 28Obal hefyd, ac Abinael, a Seba, 29Offir hefyd, a Hafila, a Jobab: yr holl rai hyn oedd feibion Joctan. 30A’u preswylfa oedd o Mesa, ffordd yr elych i Seffar, mynydd y dwyrain. 31Dyma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ôl eu hieithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd. 32Dyma deuluoedd meibion Noa, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu cenhedloedd: ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaear wedi’r dilyw.

Dewis Presennol:

Genesis 10: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda