Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 49

49
1Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf. 2Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.
3Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder. 4Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad: yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.
5Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau. 6Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant ŵr, ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer. 7Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.
8Tithau, Jwda, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti. 9Cenau llew wyt ti, Jwda; o’r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef? 10Nid ymedy’r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd. 11Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad yng ngwaed y grawnwin. 12Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.
13Sabulon a breswylia ym mhorth-leoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon.
14Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn. 15Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.
16Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel. 17Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau’r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl. 18Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.
19Gad, llu a’i gorfydd; ac yntau a orfydd o’r diwedd.
20O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.
21Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.
22Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur. 23A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef. 24Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus Dduw Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel: 25Trwy Dduw dy dad, yr hwn a’th gynorthwya, a’r Hollalluog, yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a’r groth. 26Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.
27Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty’r ysglyfaeth, a’r hwyr y rhan yr ysbail.
28Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll; a dyma’r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt. 29Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyda’m tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad; 30Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyda’r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod. 31Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea. 32Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth. 33Pan orffennodd Jacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.

Dewis Presennol:

Genesis 49: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda