Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 50

50
1Yna y syrthiodd Joseff ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a’i cusanodd ef. 2Gorchmynnodd Joseff hefyd i’w weision, y meddygon, berarogli ei dad ef: felly y meddygon a beraroglasant Israel. 3Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a beraroglir,) yna yr Eifftiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thrigain. 4Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseff wrth deulu Pharo, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharo, atolwg, gan ddywedyd, 5Fy nhad a’m tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y’m cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fyny, atolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf. 6A dywedodd Pharo, Dos i fyny, a chladd dy dad, fel y’th dyngodd.
7A Joseff a aeth i fyny i gladdu ei dad: a holl weision Pharo, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aifft, a aethant i fyny gydag ef, 8A holl dŷ Joseff, a’i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a’u defaid, a’u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen. 9Ac aeth i fyny gydag ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn. 10A hwy a ddaethant hyd lawr dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod. 11Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr dyrnu Atad; yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Eifftiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel-misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen. 12A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchmynasai efe iddynt. 13Canys ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan, ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpela: yr hon a brynasai Abraham gyda’r maes, yn feddiant beddrod, gan Effron yr Hethiad, o flaen Mamre.
14A dychwelodd Joseff i’r Aifft, efe, a’i frodyr, a’r rhai oll a aethant i fyny gydag ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.
15Pan welodd brodyr Joseff farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef. 16A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd, 17Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho. 18A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti. 19A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle Duw? 20Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer. 21Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
22A Joseff a drigodd yn yr Aifft, efe, a theulu ei dad: a bu Joseff fyw gan mlynedd a deg. 23Gwelodd Joseff hefyd, o Effraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasse, ar liniau Joseff. 24A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fyny o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob. 25A thyngodd Joseff feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fyny oddi yma. 26A Joseff a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i peraroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aifft.

Dewis Presennol:

Genesis 50: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda