Hosea 12
12
1Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft. 2Ac y mae gan yr Arglwydd gŵyn ar Jwda; ac efe a ymwêl â Jacob yn ôl ei ffyrdd: yn ôl ei weithredoedd y tâl iddo y pwyth.
3Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw. 4Ie, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd; wylodd, ac ymbiliodd ag ef: cafodd ef yn Bethel, ac yno yr ymddiddanodd â ni; 5Sef Arglwydd Dduw y lluoedd: yr Arglwydd yw ei goffadwriaeth. 6Tro dithau at dy Dduw; cadw drugaredd a barn, a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.
7Marsiandwr yw efe; yn ei law ef y mae cloriannau twyll: da ganddo orthrymu. 8A dywedodd Effraim, Eto mi a gyfoethogais, cefais i mi olud; ni chafwyd yn fy holl lafur anwiredd ynof, a fyddai bechod. 9A mi, yr hwn yw yr Arglwydd dy Dduw a’th ddug o dir yr Aifft, a wnaf i ti drigo eto mewn pebyll, megis ar ddyddiau uchel ŵyl. 10Ymddiddenais trwy y proffwydi, a mi a amlheais weledigaethau, ac a arferais gyffelybiaethau, trwy law y proffwydi. 11A oes anwiredd yn Gilead? yn ddiau gwagedd ydynt; yn Gilgal yr aberthant ychen: eu hallorau hefyd sydd fel carneddau yn rhychau y meysydd. 12Ffodd Jacob hefyd i wlad Syria, a gwasanaethodd Israel am wraig, ac am wraig y cadwodd ddefaid. 13A thrwy broffwyd y dug yr Arglwydd Israel o’r Aifft, a thrwy broffwyd y cadwyd ef. 14Effraim a’i cyffrôdd ef i ddig ynghyd â chwerwedd; am hynny y gad efe ei waed ef arno, a’i Arglwydd a dâl iddo ei waradwydd.
Dewis Presennol:
Hosea 12: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.

: