Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 10

10
1Gwae y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir, a’r ysgrifenyddion sydd yn ysgrifennu blinder; 2I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn, ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl: fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid. 3A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y distryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gadewch eich gogoniant? 4Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
5Gwae Assur, gwialen fy llid, a’r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint. 6At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a’u gosod hwynt yn sathrfa megis tom yr heolydd. 7Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorri ymaith genhedloedd nid ychydig. 8Canys efe a ddywed, Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd? 9Onid fel Charcemis yw Calno? onid fel Arpad yw Hamath? onid fel Damascus yw Samaria? 10Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrnasoedd yr eilunod, a’r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerwsalem a Samaria: 11Onid megis y gwneuthum i Samaria ac i’w heilunod, felly y gwnaf i Jerwsalem ac i’w delwau hithau? 12A bydd, pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac â gogoniant uchelder ei lygaid ef: 13Canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb; oherwydd doeth ydwyf: ac mi a symudais derfynau pobloedd, a’u trysorau a ysbeiliais, ac a fwriais i’r llawr y trigolion fel gŵr grymus: 14A’m llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai. 15A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a’i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a’i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyrchafai y ffon, fel pe na byddai yn bren. 16Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, ymhlith ei freision ef gulni; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân. 17A bydd goleuni Israel yn dân, a’i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a’i fieri mewn un dydd: 18Gogoniant ei goed hefyd, a’i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr. 19A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt.
20A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwyach ar yr hwn a’u trawodd; ond pwysant ar yr Arglwydd, Sanct Israel, mewn gwirionedd. 21Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y Duw cadarn. 22Canys pe byddai dy bobl di Israel fel tywod y môr, gweddill ohonynt a ddychwel: darfodiad terfynedig a lifa drosodd mewn cyfiawnder. 23Canys darfodedigaeth, a honno yn derfynedig, a wna Arglwydd Dduw y lluoedd yng nghanol yr holl dir.
24Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion, nac ofna rhag yr Asyriad: â gwialen y’th dery di, ac efe a gyfyd ei ffon i’th erbyn, yn ôl ffordd yr Aifft. 25Canys eto ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a’m digofaint yn eu dinistr hwy. 26Ac Arglwydd y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn ôl ffordd yr Aifft. 27A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a’i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad. 28Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw. 29Aethant trwy y rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; Gibea Saul a ffoes. 30Bloeddia â’th lef, merch Galim: pâr ei chlywed hyd Lais, O Anathoth dlawd. 31Ymbellhaodd Madmena: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi. 32Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem. 33Wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, yn ysgythru y gangen â dychryn: a’r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith, a’r rhai goruchel a ostyngir. 34Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed â haearn; a Libanus trwy un cryf a gwymp.

Dewis Presennol:

Eseia 10: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda