Eseia 46
46
1Crymodd Bel, plygodd Nebo; eu delwau oedd ar fwystfilod ac ar anifeiliaid: eich clud a lwythwyd yn drwm; llwyth ydynt i’r diffygiol. 2Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain.
3Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o’r groth, ac a arweddwyd o’r bru: 4Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a’ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd; ie, dygaf, a gwaredaf chwi.
5I bwy y’m gwnewch yn debyg, ac y’m cystedlwch, ac y’m cyffelybwch, fel y byddom debyg? 6Hwy a wastraffant aur o’r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe a’i gweithia yn dduw: gostyngant, ac ymgrymant. 7Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a’i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o’i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o’i gystudd. 8Cofiwch hyn, a byddwch wŷr: atgofiwch, droseddwyr. 9Cofiwch y pethau gynt erioed; canys myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall; Duw ydwyf, ac heb fy math; 10Yn mynegi y diwedd o’r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a’m holl ewyllys a wnaf: 11Yn galw aderyn o’r dwyrain, y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a’i dygaf i ben; mi a’i lluniais, a mi a’i gwnaf.
12Gwrandewch arnaf fi, y rhai cedyrn galon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder: 13Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a’m hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i’m gogoniant Israel.
Dewis Presennol:
Eseia 46: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.