Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid. Eto dywedodd Seion, Yr ARGLWYDD a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd. A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di. Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.
Darllen Eseia 49
Gwranda ar Eseia 49
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 49:13-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos