Eseia 49:13-16
Eseia 49:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cân, nefoedd; gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd. Canys y mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei bobl, ac yn tosturio wrth ei drueiniaid. Dywedodd Seion, “Gwrthododd yr ARGLWYDD fi, ac anghofiodd fy Arglwydd fi.” “A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, neu fam blentyn ei chroth? Fe allant hwy anghofio, ond nid anghofiaf fi di. Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo; y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid
Eseia 49:13-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Cân, nefoedd, a dathla, ddaear! Torrwch allan i ganu’n llawen, fynyddoedd! Achos mae’r ARGLWYDD wedi cysuro’i bobl, ac wedi tosturio wrth y rhai fu’n dioddef. “Dwedodd Seion, ‘Mae’r ARGLWYDD wedi troi cefn arna i; mae fy Meistr wedi fy anghofio i.’ Ydy gwraig yn gallu anghofio’r babi ar ei bron? Ydy hi’n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn? Hyd yn oed petaen nhw’n anghofio, fyddwn i’n sicr ddim yn dy anghofio di! Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo! Wna i byth golli golwg ar dy waliau di.
Eseia 49:13-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid. Eto dywedodd Seion, Yr ARGLWYDD a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd. A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di. Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.