Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, mi a estynnaf iddi heddwch fel afon, a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol: yna y sugnwch, ar ei hystlys hi y’ch dygir, ac ar ei gliniau y’ch diddenir. Fel un yr hwn y diddana ei fam ef, felly y diddanaf fi chwi; ac yn Jerwsalem y’ch diddenir. A phan weloch hyn, y llawenycha eich calon; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn: ac fe adwaenir llaw yr ARGLWYDD tuag at ei weision, a’i lidiowgrwydd wrth ei elynion.
Darllen Eseia 66
Gwranda ar Eseia 66
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 66:12-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos