Eseia 66:12-14
Eseia 66:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Edrychwch, rwy'n estyn iddi heddwch fel afon, a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol. Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys, a'ch siglo ar ei gliniau. Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi'n eich cysuro chwi; ac yn Jerwsalem y'ch cysurir. Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon, bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn; dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision, a'i lid yn erbyn ei elynion.
Eseia 66:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i’n rhoi iddi heddwch perffaith fel afon, a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi. Byddwch yn cael sugno’i bronnau a’ch cario fel babi, ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach. Bydda i’n eich cysuro chi fel mam yn cysuro’i phlentyn; byddwch chi’n cael eich cysuro yn Jerwsalem.” Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn, a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu. Bydd hi’n amlwg fod nerth yr ARGLWYDD gyda’i weision, ond ei fod wedi digio gyda’i elynion.
Eseia 66:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, mi a estynnaf iddi heddwch fel afon, a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol: yna y sugnwch, ar ei hystlys hi y’ch dygir, ac ar ei gliniau y’ch diddenir. Fel un yr hwn y diddana ei fam ef, felly y diddanaf fi chwi; ac yn Jerwsalem y’ch diddenir. A phan weloch hyn, y llawenycha eich calon; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn: ac fe adwaenir llaw yr ARGLWYDD tuag at ei weision, a’i lidiowgrwydd wrth ei elynion.