Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 18

18
1Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 2Cyfod, a dos i waered i dŷ y crochenydd, ac yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau. 3Yna mi a euthum i waered i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau. 4A’r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai, a ddifwynwyd yn llaw y crochenydd; felly efe a’i gwnaeth ef drachefn yn llestr arall, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef. 5Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 6Oni allaf fi, fel y crochenydd hwn, wneuthur i chwi, tŷ Israel? medd yr Arglwydd. Wele, megis ag y mae y clai yn llaw y crochenydd, felly yr ydych chwithau yn fy llaw i, tŷ Israel. 7Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu frenhiniaeth; 8Os y genedl honno y dywedais yn ei herbyn a dry oddi wrth ei drygioni, myfi a edifarhaf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi. 9A pha bryd bynnag y dywedwyf am adeiladu, ac am blannu cenedl neu frenhiniaeth; 10Os hi a wna ddrygioni yn fy ngolwg, heb wrando ar fy llais, minnau a edifarhaf am y daioni â’r hwn y dywedais y gwnawn les iddi.
11Yn awr gan hynny, atolwg, dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn llunio drwg i’ch erbyn, ac yn dychmygu dychymyg i’ch erbyn: dychwelwch yr awr hon bob un o’i ffordd ddrwg, a gwnewch eich ffyrdd a’ch gweithredoedd yn dda. 12Hwythau a ddywedasant, Nid oes obaith; ond ar ôl ein dychmygion ein hunain yr awn, a gwnawn bob un amcan ei ddrwg galon ei hun. 13Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gofynnwch, atolwg, ymysg y cenhedloedd, pwy a glywodd y cyfryw bethau? Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn. 14A wrthyd dyn eira Libanus, yr hwn sydd yn dyfod o graig y maes? neu a wrthodir y dyfroedd oerion rhedegog sydd yn dyfod o le arall? 15Oherwydd i’m pobl fy anghofio i, hwy a arogldarthasant i wagedd, ac a wnaethant iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan o’r hen lwybrau, i gerdded llwybrau ffordd ddisathr; 16I wneuthur eu tir yn anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob un a elo heibio iddo a synna, ac a ysgwyd ei ben. 17Megis â gwynt y dwyrain y chwalaf hwynt o flaen y gelyn; fy ngwegil ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd.
18Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef â’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef. 19Ystyria di wrthyf, O Arglwydd, a chlyw lais y rhai sydd yn ymryson â mi. 20A delir drwg dros dda? canys cloddiasant ffos i’m henaid: cofia i mi sefyll ger dy fron di i ddywedyd daioni drostynt, ac i droi dy ddig oddi wrthynt. 21Am hynny dyro eu plant hwy i fyny i’r newyn, a thywallt eu gwaed hwynt trwy nerth y cleddyf; a bydded eu gwragedd heb eu plant, ac yn weddwon; lladder hefyd eu gwŷr yn feirw, a thrawer eu gwŷr ieuainc â’r cleddyf yn y rhyfel. 22Clywer eu gwaedd o’u tai, pan ddygech fyddin arnynt yn ddisymwth; canys cloddiasant ffos i’m dal, a chuddiasant faglau i’m traed. 23Tithau, O Arglwydd, a wyddost eu holl gyngor hwynt i’m herbyn i’m lladd i: na faddau eu hanwiredd, ac na ddilea eu pechodau o’th ŵydd; eithr byddant dramgwyddedig ger dy fron; gwna hyn iddynt yn amser dy ddigofaint.

Dewis Presennol:

Jeremeia 18: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda