Job 17
17
1Fy anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau sydd barod i mi. 2Onid oes watwarwyr gyda mi? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt? 3Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gyda thi: pwy ydyw efe a dery ei law yn fy llaw i? 4Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni ddyrchefi di hwynt. 5Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant. 6Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl, ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt. 7Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod. 8Y rhai uniawn a synnant am hyn; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr. 9Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder. 10Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi. 11Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon. 12Gwnânt y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch. 13Os disgwyliaf, y bedd sydd dŷ i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely. 14Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a’m chwaer wyt. 15A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith? 16Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.
Dewis Presennol:
Job 17: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.