Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 29

29
1Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, 2O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi; 3Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch; 4Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell; 5Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch; 6Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew! 7Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol, 8Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny. 9Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau. 10Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau. 11Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi: 12Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo. 13Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu. 14Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron. 15Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff. 16Tad oeddwn i’r anghenog; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan. 17Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef. 18Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod. 19Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig. 20Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw. 21Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor. 22Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy. 23A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar-law. 24Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio. 25Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.

Dewis Presennol:

Job 29: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Job 29

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd