Job 8
8
1Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, 2Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf? 3A ŵyra Duw farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder? 4Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd; 5Os tydi a foregodi at Dduw, ac a weddïi ar yr Hollalluog; 6Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus. 7Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr. 8Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt: 9(Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:) 10Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon? 11A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr? 12Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn. 13Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng Duw dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr: 14Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef. 15Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery. 16Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan. 17Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig. 18Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais. 19Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill. 20Wele, ni wrthyd Duw y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus; 21Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd. 22A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.
Dewis Presennol:
Job 8: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.