Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 23

23
1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn. 3Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a’r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i’r Arglwydd yn eich holl drigfannau.
4Dyma wyliau yr Arglwydd, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor. 5O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr Arglwydd. 6A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwytewch fara croyw. 7Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur. 8Ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.
9A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, 10Pan ddeloch i’r tir a roddaf i chwi, a medi ohonoch ei gynhaeaf; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad. 11Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr Arglwydd, i’ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi’r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi. 12Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffaith-gwbl, yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 13A’i fwyd-offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd, yn arogl peraidd: a’i ddiod-offrwm fyddo win, pedwaredd ran hin. 14Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwm eich Duw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.
15A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi’r Saboth, o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Saboth cyflawn fyddant: 16Hyd drannoeth wedi’r seithfed Saboth, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymwch fwyd-offrwm newydd i’r Arglwydd. 17A dygwch o’ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobi hwynt, yn flaenffrwyth i’r Arglwydd. 18Ac offrymwch gyda’r bara saith oen blwyddiaid, perffaith-gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i’r Arglwydd fyddant hwy, ynghyd â’u bwyd-offrwm a’u diod-offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 19Yna aberthwch un bwch geifr yn bech-aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd. 20A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara’r blaenffrwyth, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd, ynghyd â’r ddau oen: cysegredig i’r Arglwydd ac eiddo’r offeiriad fyddant. 21A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.
22A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i’r tlawd a’r dieithr: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
23A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 24Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd. 25Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd.
26A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 27Y degfed dydd o’r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymod; cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymwch ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. 28Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymod yw, i wneuthur cymod drosoch gerbron yr Arglwydd eich Duw. 29Canys pob enaid a’r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl. 30A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl. 31Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragwyddol, trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn. 32Saboth gorffwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o’r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth.
33A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd. 34Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i’r Arglwydd. 35Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch. 36Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith. 37Dyma wyliau yr Arglwydd, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i’r Arglwydd aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd-offrwm, aberth, a diod-offrwm; pob peth yn ei ddydd: 38Heblaw Sabothau yr Arglwydd, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i’r Arglwydd. 39Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd. 40A’r dydd cyntaf cymerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw saith niwrnod. 41A chedwch hon yn ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl. 42Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod: 43Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd eich Duw. 44A thraethodd Moses wyliau yr Arglwydd wrth feibion Israel.

Dewis Presennol:

Lefiticus 23: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda