Luc 5
5
1Bu hefyd, a’r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret; 2Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a’r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. 3Ac efe a aeth i mewn i un o’r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r llong. 4A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa. 5A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. 6Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwynt a rwygodd. 7A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi. 8A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd. 9Oblegid braw a ddaethai arno ef, a’r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy; 10A’r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion. 11Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.
12A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau. 13Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho. 14Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt. 15A’r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i’w wrando ef, ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau.
16Ac yr oedd efe yn cilio o’r neilltu yn y diffeithwch, ac yn gweddïo. 17A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt.
18Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef. 19A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu. 20A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau. 21A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig? 22A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych? 23Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? 24Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ. 25Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw. 26A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.
27Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. 28Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a’i dilynodd ef. 29A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd. 30Eithr eu hysgrifenyddion a’u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid? 31A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion. 32Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.
33A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a’r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed? 34Yntau a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? 35Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
36Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a’r llain o’r newydd ni chytuna â’r hen. 37Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, ac efe a red allan, a’r costrelau a gollir. 38Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a’r ddau a gedwir. 39Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw’r hen.
Dewis Presennol:
Luc 5: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.