Nehemeia 3
3
1Yna Eliasib yr archoffeiriad a gyfododd, a’i frodyr yr offeiriaid, a hwy a adeiladasant borth y defaid; hwy a’i cysegrasant, ac a osodasant ei ddorau ef; ie, hyd dŵr Mea y cysegrasant ef, a hyd dŵr Hananeel. 2A cherllaw iddo ef yr adeiladodd gwŷr Jericho. A cherllaw iddynt hwy yr adeiladodd Saccur mab Imri. 3A meibion Hassenaa a adeiladasant borth y pysgod; hwynt-hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant ei ddorau, ei gloeau, a’i farrau. 4A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Meremoth mab Ureia, mab Cos. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Mesulam mab Berecheia, mab Mesesabeel. A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Sadoc mab Baana. 5A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd y Tecoiaid; ond eu gwŷr mawr ni osodasant eu gwddf yng ngwasanaeth eu Harglwydd. 6A Jehoiada mab Pasea, a Mesulam mab Besodeia, a gyweiriasant yr hen borth; hwy a osodasant ei drawstiau ef, ac a osodasant i fyny ei ddorau, a’i gloeau, a’i farrau. 7A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Melatia y Gibeoniad, a Jadon y Meronothiad, gwŷr Gibeon a Mispa, hyd orseddfa y llywydd oedd tu yma i’r afon. 8Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Ussiel mab Harhaia, o’r gofaint aur. Gerllaw iddo yntau y cyweiriodd Hananeia, mab un o’r apothecariaid: a hwy a gyweiriasant Jerwsalem hyd y mur llydan. 9A cher eu llaw hwynt y cyweiriodd Reffaia mab Hur, tywysog hanner rhan Jerwsalem. 10A cherllaw iddynt hwy y cyweiriodd Jedaia mab Harumaff, ar gyfer ei dŷ. A Hattus mab Hasabneia a gyweiriodd gerllaw iddo yntau. 11Malcheia mab Harim, a Hasub mab Pahath-moab, a gyweiriasant ran arall, a thŵr y ffyrnau. 12A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Salum mab Halohes, tywysog hanner rhan Jerwsalem, efe a’i ferched. 13Porth y glyn a gyweiriodd Hanun, a thrigolion Sanoa; hwynt-hwy a’i hadeiladasant ef, ac a osodasant ei ddorau ef, ei gloeau, a’i farrau, a mil o gufyddau ar y mur, hyd borth y dom. 14Ond porth y dom a gyweiriodd Malcheia mab Rechab, tywysog rhan o Beth-haccerem; efe a’i hadeiladodd, ac a osododd ei ddorau, ei gloeau, a’i farrau. 15A Salum mab Col-hose, tywysog rhan o Mispa, a gyweiriodd borth y ffynnon; efe a’i hadeiladodd, ac a’i todd, ac a osododd ei ddorau ef, ei gloeau, a’i farrau, a mur pysgodlyn Siloa, wrth ardd y brenin, a hyd y grisiau sydd yn dyfod i waered o ddinas Dafydd. 16Ar ei ôl ef y cyweiriodd Nehemeia mab Asbuc, tywysog hanner rhan Beth-sur, hyd ar gyfer beddrod Dafydd, a hyd y pysgodlyn a wnaethid, a hyd dŷ y cedyrn. 17Ar ei ôl ef y cyweiriodd y Lefiaid, Rehum mab Bani. Gerllaw iddo ef y cyweiriodd Hasabeia, tywysog hanner rhan Ceila, yn ei fro ei hun. 18Ar ei ôl ef eu brodyr hwynt a gyweiriasant, Bafai mab Henadad, tywysog hanner rhan Ceila. 19A cherllaw iddo ef y cyweiriodd Eser mab Jesua, tywysog Mispa, ran arall ar gyfer y ddringfa i dŷ yr arfau, wrth y drofa. 20Ar ei ôl ef Baruc mab Sabbai yn awyddus a gyweiriodd y mesur arall, o’r drofa hyd ddrws tŷ Eliasib yr archoffeiriad. 21Ar ei ôl ef Meremoth mab Ureia, fab Cos, a gyweiriodd y mesur arall, o ddrws tŷ Eliasib hyd dalcen tŷ Eliasib. 22Ac ar ei ôl ef yr offeiriaid, gwŷr y gwastadedd, a gyweiriasant. 23Ar ei ôl ef y cyweiriodd Benjamin, a Hasub, gyferbyn â’u tŷ. Wedi yntau Asareia mab Maaseia, mab Ananeia, a gyweiriodd wrth ei dŷ. 24Ar ei ôl yntau Binnui mab Henadad a gyweiriodd fesur arall, o dŷ Asareia hyd y drofa, sef hyd y gongl. 25Palal mab Usai, ar gyfer y drofa, a’r tŵr sydd yn myned allan o ucheldy y brenin, yr hwn sydd wrth gyntedd y carchar. Ar ei ôl ef, Pedaia mab Paros. 26A’r Nethiniaid, y rhai oedd yn trigo yn Offel, hyd ar gyfer porth y dwfr, tua’r dwyrain, a’r tŵr oedd yn myned allan. 27Ar ei ôl yntau y Tecoiaid a gyweiriasant fesur arall, ar gyfer y tŵr mawr sydd yn myned allan, hyd fur Offel. 28Oddi ar borth y meirch, yr offeiriaid a gyweiriasant bob un gyferbyn â’i dŷ. 29Ar eu hôl hwynt Sadoc mab Immer a gyweiriodd ar gyfer ei dŷ. Ac ar ei ôl yntau y cyweiriodd Semaia mab Sechaneia, ceidwad porth y dwyrain. 30Ar ei ôl ef y cyweiriodd Hananeia mab Selemeia, a Hanun chweched mab Salaff, y mesur arall. Ar ei ôl yntau Mesulam mab Berecheia a gyweiriodd ar gyfer ei ystafell. 31Ar ei ôl yntau Malcheia, mab y gof aur, a gyweiriodd hyd dŷ y Nethiniaid, a’r marchnadyddion ar gyfer porth Miffcad, hyd ystafell y gongl. 32A rhwng ystafell y gongl a phorth y defaid, yr eurychod a’r marchnadyddion a gyweiriasant.
Dewis Presennol:
Nehemeia 3: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.