Diarhebion 25
25
1Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, y rhai a gasglodd gwŷr Heseceia brenin Jwda. 2Anrhydedd Duw yw dirgelu peth: ond anrhydedd brenin yw chwilio peth allan. 3Y nefoedd am uchder, y ddaear am ddyfnder, a chalon brenhinoedd, ni ellir eu chwilio. 4Tyn yr amhuredd oddi wrth yr arian, a daw i’r gof arian lestr. 5Tyn yr annuwiol o olwg y brenin, a’i orseddfa ef a gadarnheir trwy gyfiawnder. 6Nac ymogonedda gerbron y brenin; ac na saf yn lle gwŷr mawr: 7Canys gwell i ti ddywedyd wrthyt, Tyred yma i fyny, na’th fwrw yn is gerbron pendefig yr hwn a welodd dy lygaid. 8Na ddos allan i gynhennu ar frys: rhag na wypych beth a wnelych yn ei diwedd, wedi dy gywilyddio gan dy gymydog. 9Ymresyma â’th gymydog ei hun: ond na ddatguddia gyfrinach i arall: 10Rhag i’r neb a fyddo yn gwrando ddwyn gwarth arnat ti; ac i’th gywilydd na thro ymaith. 11Gair a ddyweder mewn amser sydd megis afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig. 12Ceryddwr doeth i’r glust a wrandawo, sydd fel anwyldlws euraid, a gwisg o aur rhagorol. 13Megis oerder eira yn amser cynhaeaf, yw cennad ffyddlon i’r rhai a’i gyrrant: canys efe a lawenycha enaid ei feistriaid. 14Y neb a ymffrostio o achos gau rodd, sydd gyffelyb i gymylau a gwynt heb law. 15Trwy hirymaros y bodlonir pendefig: a thafod esmwyth a dyr asgwrn. 16Pan gaffech fêl, bwyta a’th wasanaetho: rhag wedi dy lenwi ohono, i ti ei chwydu ef. 17Cadw dy droed allan o dŷ dy gymydog: rhag iddo flino arnat, a’th gasáu. 18Y neb a ddygo gamdystiolaeth yn erbyn ei gymydog, sydd megis gordd, a chleddyf, a saeth lem. 19Hyder ar ffalswr yn nydd cyfyngder, sydd megis dant wedi ei dorri, a throed wedi tyrfu. 20Fel yr hwn a ddygo ymaith wisg yn amser oerfel, ac fel finegr ar nitr, felly y mae yr hwn sydd yn canu caniadau i galon drist. 21Os dy elyn a newyna, portha ef â bara; ac os sycheda, dod iddo ddiod i’w hyfed: 22Canys marwor a bentyrri ar ei ben ef; a’r Arglwydd a dâl i ti. 23Gwynt y gogledd a yrr y glaw ymaith: felly y gyr wynepryd dicllon dafod athrotgar. 24Gwell yw trigo mewn congl yn nen tŷ, na chyda gwraig anynad mewn tŷ eang. 25Fel dyfroedd oerion i enaid sychedig, yw newyddion da o wlad bell. 26Gŵr cyfiawn wedi syrthio i lawr gerbron y drygionus, sydd megis ffynnon wedi ei chymysgu â gofer budr. 27Nid da bwyta llawer o fêl: ac felly chwilio eu hanrhydedd, nid anrhydedd yw. 28Y neb ni byddo ganddo atal ar ei ysbryd ei hun, sydd megis dinas ddrylliog heb gaer.
Dewis Presennol:
Diarhebion 25: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.