Y Salmau 33
33
SALM 33
1Ymlawenhewch, y rhai cyfiawn, yn yr Arglwydd: i’r rhai uniawn gweddus yw mawl.
2Molwch yr Arglwydd â’r delyn: cenwch iddo â’r nabl, ac â’r dectant.
3Cenwch iddo ganiad newydd: cenwch yn gerddgar, yn soniarus.
4Canys uniawn yw gair yr Arglwydd; a’i holl weithredoedd a wnaed mewn ffyddlondeb.
5Efe a gâr gyfiawnder a barn: o drugaredd yr Arglwydd y mae y ddaear yn gyflawn.
6Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd; a’u holl luoedd hwy trwy ysbryd ei enau ef.
7Casglu y mae efe ddyfroedd y môr ynghyd megis pentwr: y mae yn rhoddi y dyfnderoedd mewn trysorau.
8Ofned yr holl ddaear yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef.
9Canys efe a ddywedodd, ac felly y bu: efe a orchmynnodd, a hynny a safodd.
10Yr Arglwydd sydd yn diddymu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymu amcanion pobloedd.
11Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd; meddyliau ei galon o genhedlaeth i genhedlaeth.
12Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
13Yr Arglwydd sydd yn edrych i lawr o’r nefoedd: y mae yn gweled holl feibion dynion.
14O breswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaear.
15Efe a gydluniodd eu calon hwynt: efe a ddeall eu holl weithredoedd.
16Ni waredir brenin gan liaws llu: ni ddianc cadarn trwy ei fawr gryfder.
17Peth ofer yw march i ymwared: ac nid achub efe neb trwy ei fawr gryfder.
18Wele, y mae llygad yr Arglwydd ar y rhai a’i hofnant ef, sef ar y rhai a obeithiant yn ei drugaredd ef;
19I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn.
20Ein henaid sydd yn disgwyl am yr Arglwydd: efe yw ein porth a’n tarian.
21Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, oherwydd i ni obeithio yn ei enw sanctaidd ef.
22Bydded dy drugaredd, Arglwydd, arnom ni, megis yr ydym yn ymddiried ynot.
Dewis Presennol:
Y Salmau 33: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.