Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd.
Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau.
Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau.
Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon.
Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben.
Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd.
Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion.
Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg.
Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y tir.
Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono.
Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.
Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno.
Yr ARGLWYDD a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod.
Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd.
Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir.
Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer.
Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr ARGLWYDD a gynnal y rhai cyfiawn.
Yr ARGLWYDD a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd.
Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon.
Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr ARGLWYDD fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy.
Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi.
Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith.
Yr ARGLWYDD a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef.
Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr ARGLWYDD sydd yn ei gynnal ef â’i law.
Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na’i had yn cardota bara.
Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir.
Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd.
Canys yr ARGLWYDD a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith.
Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd.
Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn.
Deddf ei DDUW sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant.
Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef.
Ni ad yr ARGLWYDD ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner.
Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli.
Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd.
Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael.
Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd.
Ond y troseddwyr a gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith.
A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD: efe yw eu nerth yn amser trallod.
A’r ARGLWYDD a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.