Salm 37:1-40
Salm 37:1-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Paid digio pan mae pobl ddrwg yn llwyddo; paid bod yn genfigennus ohonyn nhw. Byddan nhw’n gwywo’n ddigon sydyn, fel glaswellt, ac yn diflannu fel egin gwan. Trystia’r ARGLWYDD a gwna beth sy’n dda. Setla i lawr yn y tir a mwynhau ei ffyddlondeb. Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e’n rhoi i ti bopeth rwyt ti eisiau. Rho dy hun yn nwylo’r ARGLWYDD a’i drystio fe; bydd e’n gweithredu ar dy ran di. Bydd e’n achub dy gam di o flaen pawb. Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawn mor amlwg â’r haul ganol dydd. Bydd yn amyneddgar wrth ddisgwyl am yr ARGLWYDD. Paid digio pan wyt ti’n gweld pobl eraill yn llwyddo wrth ddilyn eu cynlluniau cyfrwys. Paid gwylltio am y peth, na cholli dy dymer. Paid digio. Drwg ddaw iddyn nhw yn y diwedd! Bydd pobl ddrwg yn cael eu taflu allan, ond bydd y rhai sy’n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn meddiannu’r tir! Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig. Byddi’n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd. Y rhai sy’n cael eu cam-drin fydd yn meddiannu’r tir, a byddan nhw’n mwynhau heddwch a llwyddiant. Mae’r rhai drwg yn cynllwynio yn erbyn y rhai sy’n byw yn iawn, ac yn ysgyrnygu eu dannedd fel anifeiliaid gwyllt. Ond mae’r ARGLWYDD yn chwerthin am eu pennau; mae e’n gwybod fod eu tro nhw’n dod! Mae’r rhai drwg yn tynnu eu cleddyfau ac yn plygu eu bwâu, i daro i lawr y rhai sy’n cael eu gorthrymu ac sydd mewn angen, ac i ladd y rhai sy’n byw’n gywir. Ond byddan nhw’n cael eu trywanu gan eu cleddyfau eu hunain, a bydd eu bwâu yn cael eu torri! Mae’r ychydig sydd gan berson sy’n byw yn iawn yn well na’r holl gyfoeth sydd gan y rhai drwg. Bydd pobl ddrwg yn colli eu grym, ond mae’r ARGLWYDD yn cynnal y rhai sy’n byw yn iawn. Mae’r ARGLWYDD yn gofalu amdanyn nhw bob dydd; mae ganddyn nhw etifeddiaeth fydd yn para am byth. Fydd dim cywilydd arnyn nhw pan fydd hi’n ddyddiau anodd; pan fydd newyn bydd ganddyn nhw ddigon i’w fwyta. Ond bydd y rhai drwg yn marw. Bydd gelynion yr ARGLWYDD yn cael eu difa, fel gwellt yn cael ei losgi mewn ffwrn. Mae pobl ddrwg yn benthyg heb dalu’r ddyled yn ôl; ond mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn hael ac yn dal ati i roi. Bydd y bobl mae Duw’n eu bendithio yn meddiannu’r tir, ond y rhai mae’n eu melltithio yn cael eu gyrru i ffwrdd. Mae’r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiant yr un sy’n byw i’w blesio. Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb, achos mae’r ARGLWYDD yn gafael yn ei law. Rôn i’n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed. Dw i erioed wedi gweld rhywun sy’n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw, na’i blant yn gorfod chwilio am fwyd. Mae bob amser yn hael ac yn benthyg i eraill, ac mae ei blant yn cael eu bendithio. Tro dy gefn ar ddrwg a gwna beth sy’n dda, a byddi’n saff am byth. Mae’r ARGLWYDD yn caru beth sy’n gyfiawn, a dydy e byth yn siomi’r rhai sy’n ffyddlon iddo. Maen nhw’n saff bob amser; ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd. Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth. Mae pobl dduwiol yn dweud pethau doeth, ac yn hybu cyfiawnder. Cyfraith Duw sy’n rheoli eu ffordd o feddwl, a dŷn nhw byth yn llithro. Mae’r rhai drwg yn disgwyl am gyfle i ymosod ar y sawl sy’n byw yn iawn, yn y gobaith o’i ladd; ond fydd yr ARGLWYDD ddim yn gadael iddo syrthio i’w dwylo; fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys. Disgwyl am yr ARGLWYDD! Dos y ffordd mae e’n dweud a bydd e’n rhoi’r gallu i ti feddiannu’r tir. Byddi’n gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd. Dw i wedi gweld pobl ddrwg, greulon, yn llwyddo ac ymledu fel coeden ddeiliog yn ei chynefin. Ond wedyn wrth basio heibio, sylwais eu bod wedi diflannu! Rôn i’n chwilio, ond doedd dim sôn amdanyn nhw. Edrych ar y rhai gonest! Noda’r rhai sy’n byw’n gywir! Mae dyfodol i’r rhai sy’n hybu heddwch. Ond bydd y rhai sy’n troseddu yn cael eu dinistrio’n llwyr. Does dim dyfodol i’r rhai drwg. Mae’r ARGLWYDD yn achub y rhai sy’n byw’n gywir, ac yn eu hamddiffyn pan maen nhw mewn trafferthion. Mae’r ARGLWYDD yn eu helpu ac yn eu hachub; mae’n eu hachub o afael pobl ddrwg, am eu bod wedi troi ato i’w hamddiffyn.
Salm 37:1-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus, na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg. Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt, a chrino fel glesni gwanwyn. Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel. Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon. Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda. Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a'th uniondeb fel haul canol dydd. Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD, aros yn amyneddgar amdano; paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo, y gŵr sy'n gwneud cynllwynion. Paid â digio; rho'r gorau i lid; paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny. Oherwydd dinistrir y rhai drwg, ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir. Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus; er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael. Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tir ac yn mwynhau heddwch llawn. Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn, ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno; ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben, oherwydd gŵyr fod ei amser yn dyfod. Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyf ac yn plygu eu bwa, i ddarostwng y tlawd a'r anghenus, ac i ladd yr union ei gerddediad; ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain, a thorrir eu bwâu. Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn na chyfoeth mawr y drygionus; oherwydd torrir nerth y drygionus, ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn. Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius, ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth. Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg, a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn. Oherwydd fe dderfydd am y drygionus; bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn tân, pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg. Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n ôl, ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog. Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir, ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo. Yr ARGLWYDD sy'n cyfeirio camau'r difeius, y mae'n ei gynnal ac yn ymhyfrydu yn ei gerddediad; er iddo syrthio, nis bwrir i'r llawr, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ei gynnal â'i law. Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen, ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael, na'i blant yn cardota am fara; y mae bob amser yn drugarog ac yn rhoi benthyg, a'i blant yn fendith. Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda, a chei gartref diogel am byth, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn, ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid; ond difethir yr anghyfiawn am byth, a thorrir ymaith blant y drygionus. Y mae'r cyfiawn yn etifeddu'r tir, ac yn cartrefu ynddo am byth. Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb, a'i dafod yn mynegi barn; y mae cyfraith ei Dduw yn ei galon, ac nid yw ei gamau'n methu. Y mae'r drygionus yn gwylio'r cyfiawn ac yn ceisio cyfle i'w ladd; ond nid yw'r ARGLWYDD yn ei adael yn ei law, nac yn caniatáu ei gondemnio pan fernir ef. Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glŷn wrth ei ffordd, ac fe'th ddyrchafa i etifeddu'r tir, a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith. Gwelais y drygionus yn ddidostur, yn taflu fel blaguryn iraidd; ond pan euthum heibio, nid oedd dim ohono; er imi chwilio amdano, nid oedd i'w gael. Sylwa ar y difeius, ac edrych ar yr uniawn; oherwydd y mae disgynyddion gan yr heddychlon. Difethir y gwrthryfelwyr i gyd, a dinistrir disgynyddion y drygionus. Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD; ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd. Bydd yr ARGLWYDD yn eu cynorthwyo ac yn eu harbed; bydd yn eu harbed rhag y drygionus ac yn eu hachub, am iddynt lochesu ynddo.
Salm 37:1-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. Distawa yn yr ARGLWYDD, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr ARGLWYDD, hwynt-hwy a etifeddant y tir. Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono. Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd. Yr annuwiol a amcana yn erbyn y cyfiawn, ac a ysgyrnyga ei ddannedd arno. Yr ARGLWYDD a chwardd am ei ben ef: canys gwêl fod ei ddydd ar ddyfod. Yr annuwiolion a dynasant eu cleddyf, ac a anelasant eu bwa, i fwrw i lawr y tlawd a’r anghenog, ac i ladd y rhai uniawn eu ffordd. Eu cleddyf a â yn eu calon eu hunain, a’u bwâu a ddryllir. Gwell yw yr ychydig sydd gan y cyfiawn na mawr olud annuwiolion lawer. Canys breichiau yr annuwiolion a dorrir: ond yr ARGLWYDD a gynnal y rhai cyfiawn. Yr ARGLWYDD a edwyn ddyddiau y rhai perffaith: a’u hetifeddiaeth hwy fydd yn dragywydd. Nis gwaradwyddir hwy yn amser drygfyd: ac yn amser newyn y cânt ddigon. Eithr collir yr annuwiolion, a gelynion yr ARGLWYDD fel braster ŵyn a ddiflannant: yn fwg y diflannant hwy. Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref: ond y cyfiawn sydd drugarog, ac yn rhoddi. Canys y rhai a fendigo efe, a etifeddant y tir; a’r rhai a felltithio efe, a dorrir ymaith. Yr ARGLWYDD a fforddia gerddediad gŵr da: a da fydd ganddo ei ffordd ef. Er iddo gwympo, ni lwyr fwrir ef i lawr: canys yr ARGLWYDD sydd yn ei gynnal ef â’i law. Mi a fûm ieuanc, ac yr ydwyf yn hen; eto ni welais y cyfiawn wedi ei adu, na’i had yn cardota bara. Bob amser y mae efe yn drugarog, ac yn rhoddi benthyg; a’i had a fendithir. Cilia di oddi wrth ddrwg, a gwna dda; a chyfanhedda yn dragywydd. Canys yr ARGLWYDD a gâr farn, ac ni edy ei saint; cedwir hwynt yn dragywydd: ond had yr annuwiol a dorrir ymaith. Y rhai cyfiawn a etifeddant y ddaear, ac a breswyliant ynddi yn dragywydd. Genau y cyfiawn a fynega ddoethineb, a’i dafod a draetha farn. Deddf ei DDUW sydd yn ei galon ef; a’i gamre ni lithrant. Yr annuwiol a wylia ar y cyfiawn, ac a gais ei ladd ef. Ni ad yr ARGLWYDD ef yn ei law ef, ac ni ad ef yn euog pan ei barner. Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a chadw ei ffordd ef, ac efe a’th ddyrchafa fel yr etifeddech y tir: pan ddifether yr annuwiolion, ti a’i gweli. Gwelais yr annuwiol yn gadarn, ac yn frigog fel y llawryf gwyrdd. Er hynny efe a aeth ymaith, ac wele, nid oedd mwy ohono: a mi a’i ceisiais, ac nid oedd i’w gael. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gŵr hwnnw fydd tangnefedd. Ond y troseddwyr a gyd-ddistrywir: diwedd yr annuwiolion a dorrir ymaith. A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr ARGLWYDD: efe yw eu nerth yn amser trallod. A’r ARGLWYDD a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.