Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 45

45
SALM 45
I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau.
1Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan.
2Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd.
3Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, â’th ogoniant a’th harddwch.
4Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder; a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy.
5Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin.
6Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.
7Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion.
8Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant.
9Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir.
10Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad.
11A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef.
12Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb.
13Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi.
14Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti.
15Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin.
16Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir.
17Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 45: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda