Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 47

47
SALM 47
I’r Pencerdd, Salm i feibion Cora.
1Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i Dduw â llef gorfoledd.
2Canys yr Arglwydd goruchaf sydd ofnadwy; Brenin mawr ar yr holl ddaear.
3Efe a ddwg y bobl danom ni, a’r cenhedloedd dan ein traed.
4Efe a ddethol ein hetifeddiaeth i ni, ardderchowgrwydd Jacob, yr hwn a hoffodd efe. Sela.
5Dyrchafodd Duw â llawen floedd, yr Arglwydd â sain utgorn.
6Cenwch fawl i Dduw, cenwch: cenwch fawl i’n Brenin, cenwch.
7Canys Brenin yr holl ddaear yw Duw: cenwch fawl yn ddeallus.
8 Duw sydd yn teyrnasu ar y cenhedloedd: eistedd y mae Duw ar orseddfainc ei sancteiddrwydd.
9Pendefigion y bobl a ymgasglasant ynghyd, sef pobl Duw Abraham: canys tarianau y ddaear ydynt eiddo Duw: dirfawr y dyrchafwyd ef.

Dewis Presennol:

Y Salmau 47: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda