Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 63

63
SALM 63
Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.
1Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr;
2I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr.
3Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant.
4Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.
5Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar:
6Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.
7Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.
8Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal.
9Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.
10Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.
11Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.

Dewis Presennol:

Y Salmau 63: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda