Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Datguddiad 8

8
1A phan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nef megis dros hanner awr. 2Ac mi a welais y saith angel y rhai oedd yn sefyll gerbron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o utgyrn. 3Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd gerbron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd gerbron yr orseddfainc. 4Ac fe aeth mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint, o law yr angel i fyny gerbron Duw. 5A’r angel a gymerth y thuser, ac a’i llanwodd hi o dân yr allor, ac a’i bwriodd i’r ddaear: a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daeargryn. 6A’r saith angel, y rhai oedd â’r saith utgorn ganddynt, a ymbaratoesant i utganu. 7A’r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i’r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a’r holl laswellt a losgwyd. 8A’r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i’r môr: a thraean y môr a aeth yn waed; 9A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt; a thraean y llongau a ddinistriwyd. 10A’r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd; 11Ac enw’r seren a elwir Wermod: ac aeth traean y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon. 12A’r pedwerydd angel a utganodd; a thrawyd traean yr haul, a thraean y lleuad, a thraean y sêr; fel y tywyllwyd eu traean hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draean, a’r nos yr un ffunud. 13Ac mi a edrychais, ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel, y rhai sydd eto i utganu!

Dewis Presennol:

Datguddiad 8: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda