Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth 2

2
1Ac i ŵr Naomi yr ydoedd câr, o ŵr cadarn nerthol, o dylwyth Elimelech, a’i enw Boas. 2A Ruth y Foabes a ddywedodd wrth Naomi, Gad i mi fyned yn awr i’r maes, a lloffa tywysennau ar ôl yr hwn y caffwyf ffafr yn ei olwg. Hithau a ddywedodd wrthi, Dos, fy merch. 3A hi a aeth, ac a ddaeth, ac a loffodd yn y maes ar ôl y medelwyr: a digwyddodd wrth ddamwain fod y rhan honno o’r maes yn eiddo Boas, yr hwn oedd o dylwyth Elimelech.
4Ac wele, Boas a ddaeth o Bethlehem, ac a ddywedodd wrth y medelwyr, Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi. Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Yr Arglwydd a’th fendithio. 5Yna y dywedodd Boas wrth ei was yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl y medelwyr, Pwy biau y llances hon? 6A’r gwas yr hwn oedd yn sefyll wrth y medelwyr a atebodd, ac a ddywedodd, Y llances o Moab ydyw hi, yr hon a ddychwelodd gyda Naomi o wlad Moab: 7A hi a ddywedodd, Atolwg yr ydwyf gael lloffa, a chasglu ymysg yr ysgubau ar ôl y medelwyr: a hi a ddaeth, ac a arhosodd er y bore hyd yr awr hon, oddieithr aros ohoni hi ychydig yn tŷ. 8Yna y dywedodd Boas wrth Ruth, Oni chlywi di, fy merch? Na ddos i loffa i faes arall, ac na cherdda oddi yma; eithr aros yma gyda’m llancesau i. 9Bydded dy lygaid ar y maes y byddont hwy yn ei fedi; a dos ar eu hôl hwynt: oni orchmynnais i’r llanciau, na chyffyrddent â thi? A phan sychedych, dos at y llestri, ac yf o’r hwn a ollyngodd y llanciau. 10Yna hi a syrthiodd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd i lawr, ac a ddywedodd wrtho ef, Paham y cefais ffafr yn dy olwg di, fel y cymerit gydnabod arnaf, a minnau yn alltudes? 11A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen. 12Yr Arglwydd a dalo am dy waith; a bydded dy obrwy yn berffaith gan Arglwydd Dduw Israel, yr hwn y daethost i obeithio dan ei adenydd. 13Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di. 14A dywedodd Boas wrthi hi, Yn amser bwyd tyred yma, a bwyta o’r bara, a gwlych dy damaid yn y finegr. A hi a eisteddodd wrth ystlys y medelwyr: ac efe a estynnodd iddi gras ŷd; a hi a fwytaodd, ac a ddigonwyd, ac a adawodd weddill. 15A hi a gyfododd i loffa: a gorchmynnodd Boas i’w weision, gan ddywedyd, Lloffed hefyd ymysg yr ysgubau, ac na feiwch arni: 16A chan ollwng gollyngwch hefyd iddi beth o’r ysgubau; a gadewch hwynt, fel y lloffo hi hwynt; ac na cheryddwch hi. 17Felly hi a loffodd yn y maes hyd yr hwyr: a hi a ddyrnodd yr hyn a loffasai, ac yr oedd ynghylch effa o haidd.
18A hi a’i cymerth, ac a aeth i’r ddinas: a’i chwegr a ganfu yr hyn a gasglasai hi: hefyd hi a dynnodd allan, ac a roddodd iddi yr hyn a weddillasai hi, wedi cael digon. 19A dywedodd ei chwegr wrthi hi, Pa le y lloffaist heddiw, a pha le y gweithiaist? bydded yr hwn a’th adnabu yn fendigedig. A hi a fynegodd i’w chwegr pwy y gweithiasai hi gydag ef; ac a ddywedodd, Enw y gŵr y gweithiais gydag ef heddiw, yw Boas. 20A dywedodd Naomi wrth ei gwaudd, Bendigedig fyddo efe gan yr Arglwydd, yr hwn ni pheidiodd â’i garedigrwydd tua’r rhai byw a’r rhai meirw. Dywedodd Naomi hefyd wrthi hi, Agos i ni yw y gŵr hwnnw, o’n cyfathrach ni y mae efe. 21A Ruth y Foabes a ddywedodd, Efe a ddywedodd hefyd wrthyf, Gyda’m llanciau i yr arhosi, nes gorffen ohonynt fy holl gynhaeaf i. 22A dywedodd Naomi wrth Ruth ei gwaudd, Da yw, fy merch, i ti fyned gyda’i lancesi ef, fel na ruthront i’th erbyn mewn maes arall. 23Felly hi a ddilynodd lancesau Boas i loffa, nes darfod cynhaeaf yr haidd a chynhaeaf y gwenith: ac a drigodd gyda’i chwegr.

Dewis Presennol:

Ruth 2: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda